Matthew Parker

Oddi ar Wicipedia
Matthew Parker
Portread o'r Archesgob Matthew Parker gan arlunydd anhysbys.
Ganwyd 6 Awst 1504  Edit this on Wikidata
Norwich   Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Mai 1575, 1575  Edit this on Wikidata
Lambeth Palace  Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth offeiriad   Edit this on Wikidata
Swydd Archesgob Caergaint   Edit this on Wikidata
Plant John Parker  Edit this on Wikidata

Clerigwr Anglicanaidd o Sais oedd Matthew Parker ( 6 Awst 1504 ? 17 Mai 1575 ) a fu'n Archesgob Caergaint o 1559 i 1575 ac yn un o arweinwyr sefydlogi hunaniaeth unigryw Eglwys Loegr yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth .

Ganed ef yn Norwich , Norfolk , a chafodd ei addysg yn Neuadd y Santes Fair a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt . Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig ym 1527, er yr oedd eisoes yn cydymdeimlo a syniadaeth Luther . Gwasanaethodd yn ddeon mewn coleg offeiriaid yn Suffolk o 1535 i 1547. Wedi ei ethol yn feistr Coleg Corpus Christi ym 1544, aeth ati i ddiwygio'r llyfrgell (byddai'n cymynroddi ei lawysgrifau cain i'r honno). Fe'i penodwyd i sawl swydd arall yn y cyfnod hwn, gan gynnwys caplan i'r Brenin Harri VIII ym 1538 ac is-ganghellor Prifysgol Caergrawnt ym 1545 a 1549. Yn sgil esgyniad Mari I i'r orsedd, gorfodwyd iddo ymddiswyddo o'r brifysgol ym 1553 a ffoes i Frankfurt-am-Main .

Dychwelodd i Loegr wedi i Elisabeth olynu Mari, a derbyniodd, yn anfodlon, Archesgobaeth Caergaint. Fe'i cysegrwyd ym Mhalas Lambeth ar 19 Rhagfyr 1559. Byddai'n un o'r garfan Anglicanaidd, a geisiodd canfod ffordd ganolig rhwng Pabyddiaeth a Phiwritaniaeth . Dan ei arweiniad, cyhoeddwyd y 39 Erthygl, gan osod sail o ran athrawiaeth i'r eglwys. Ei brif gyfraniad at astudiaethau diwinyddol y cyfnod oedd Beibl yr Esgob (1563?8); Parker ei hun a gyfieithodd Lyfr Genesis , yr Efengyl yn ol Mathew , a rhai o epistolau Paul . [1] [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 749.
  2. (Saesneg)   Matthew Parker . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 13 Tachwedd 2022.