Actor o'r Unol Daleithiau yw
Matthew Quincy Daddario
(g.
1 Hydref
1987
). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rol fel Alec Lightwood ar y rhaglen deledu Freeform
Shadowhunters
. Mae'n frawd i'r actores
Alexandra Daddario
.
Cafodd Daddario ei eni a'i fagu yn
Efrog Newydd
gan y cyfreithwyr Christina a Richard Daddario. Ei chwaer hun yw'r actores
Alexandra Daddario
ac mae ganddo chwaer iau, Catherine Daddario.
Mae Matthew Daddario o dras
Eidalaidd
,
Gwyddelig
,
Hwngaraidd
,
Slofacaidd
,
Almaenig
a
Saesnig
.
Aeth i Ysgol Collegiate cyn astudio busnes yn
Indiana University Bloomington
. Graddiodd Daddario o'r brifysgol yn 2010.
Yn Mai 2015, cyhoeddwyd fod Daddario am portreadu Alec Lightwood ar y rhaglen deledu Freeform
Shadowhunters
, a seilwyd ar y gyfres llyfrau
The Mortal Instruments
gan
Cassandra Clare
. Cychwynodd y rhaglen ar Ionawr 12, 2016.
[1]