한국   대만   중국   일본 
Mary Lou Williams - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Mary Lou Williams

Oddi ar Wicipedia
Mary Lou Williams
Ganwyd Mary Elfrieda Scruggs  Edit this on Wikidata
8 Mai 1910  Edit this on Wikidata
Atlanta   Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Mai 1981  Edit this on Wikidata
Durham, Gogledd Carolina   Edit this on Wikidata
Label recordio Atlantic Records, Decca Records, Brunswick Records, King, Victor  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Westinghouse High School  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth jazz pianist, cyfansoddwr , arweinydd band, athro , artist recordio  Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Duke  Edit this on Wikidata
Arddull jazz , cerddoriaeth glasurol , free jazz, hard bop, cerddoriaeth swing, big band , cerddoriaeth yr efengyl   Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrodoriaeth Guggenheim , Cymrodoriaeth Guggenheim , honorary doctor of Fordham University  Edit this on Wikidata

Cerddor jazz oedd Mary Lou Williams (ganwyd Mary Elfrieda Scruggs ; 8 Mai 1910 ? 28 Mai 1981 ). Roedd yn chwarae'r piano ac yn canu, ond roedd ei chyfraniad fwyaf fel cyfansoddwr ac arweinydd ar fandiau. Fe ysgrifennodd gannoedd o gyfansoddiadau ac fe recordiodd gannoedd o recordiau. [1] Yn ogystal a'i bandiau ei hunain, chwaraewyd ei chyfansoddiadau gan fandiau gerddorion jazz eraill megis Duke Ellington a Benny Goodman , ac roedd yn gyfaill ac yn fentor i nifer fawr o gerddorion o'r genhedlaeth iau, gan gynnwys Thelonious Monk , Charlie Parker , Miles Davis , Tadd Dameron , Bud Powell , a Dizzy Gillespie ymysg eraill.

Yn ystod y 1930au a'r 1940au bu Williams yn arwain ei bandiau ei hunan ac yn perfformio fel unawdydd yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer cerddorion eraill. Roedd y rhain yn arddull swing boblogaidd y cyfnod, fodd bynnag yn y 1940au bu Williams yn cymdeithasu ac yn ymwneud a cherddorion bebop y genhedlaeth newydd. Ar ol cyfnod heb chwarae yn ystod yr 1950au , bu'n cyfansoddi cerddoriaeth grefyddol gan mwyaf yn ystod y 1960au a'r 1970au (cafodd droedigaeth i gatholigiaeth yn 1956), megis Mary Lou's Mass (1964). Roedd y gerddoriaeth hon yn aml yn dangos dylanwad gospel a cherddoriaeth grefyddol, glasurol.

Ei dylanwad mwyaf amlwg oedd Duke Ellington , a drodd at gerddoriaeth grefyddol hefyd yn hwyr yn ei yrfa.

Bu farw Williams o ganser yn 1981. Fei'i hystyrir yn un o'r merched pwysicaf yn hanes jazz. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Kernodle, Tammy L. Soul on Soul: The Life and Music of Mary Lou Williams, (2004); ISBN   1-55553-606-9
  2. "First Lady of the Jazz Keyboard on JSTOR". JSTOR   1214051 . Missing or empty |url= ( help )