Cantores bop a gwerin yw
Mary Hopkin
(ganwyd
3 Mai
1950
). Mae hi’n cael ei hadnabod yn bennaf o’r sengl rhif un 1968 “
Those Were the Days
”. Roedd hi’n un o’r cantorion cyntaf i ymuno a label
y Beatles
,
Apple
.
Fe'i ganwyd ym
Mhontardawe
, lle chymherodd hi wersi canu’n wythnosol a cychwynodd ei gyrfa fel cantores werin gyda gr?p lleol o’r enw the Selby Set and Mary. Rhyddhaodd ei record gyntaf, "
Llais Swynol
", yn Gymraeg ar label
Recordiau Cambrian
, cwmni o Bontardawe gan recordio sengl gyda
Edward Morus Jones
(oedd wedi canu deuawd gyda
Dafydd Iwan
ar sawl un o'u recordiau. Wedi hynn ymunodd Mary ag
Apple Records
, oedd yn cael ei reoli gan
y Beatles
. Gwelodd y model
Twiggy
hi’n ennill y sioe dalent Prydeinig ‘’
Opportunity Knocks
’’ ac argymhellodd hi i
Paul McCartney
.
[1]
Cynhyrchwyd ei sengl cyntaf, “
Those Were the Days
” gan McCartney, a gafodd ei ryddhau ym Mhrydain ar Awst 30,
1968
. Er gwaethaf cystadleuaeth gan gantores sefydlig
Sandie Shaw
, a oedd wedi rhyddhau sengl yr un flwyddyn, daeth Hopkin yn hit rhif un ar siart senglau’r DU.
[2]
Cyrhaeddodd y gan hefyd rif dau ar
Billboard Hot 100
yr UDA, lle roedd wedi ei gadw am tair wythnos o’r brig gan “
Hey Jude
” y Beatles
[3]
, ac am bythefnos, roedd ar rif un siartiau senglau
RPM
Canada. Gwerthodd 1,500,000 o gopiau yn yr UDA yn unig ac fe’i ddyfarnwyd y disc aur gan yr
RIAA
. Roedd gwerthiannau byd-eang dros 8,000,000.
[4]
Ar Hydref 2, 1968, ymddangosodd Hopkin yn
Eglwys Gadeiriol Sant Paul
, Llundain, lle ganodd ''
Morning of My Life
", "
Turn Turn Turn
", ac "
Plaisir d'amour
".
[5]
Yn Rhagfyr y flwyddyn honno, adroddodd y cylchgrawn cerddoriaeth,
NME
, bod Hopkin yn ystyried cymryd prif rol actio ffilm newydd
Stanley Baker
,
The Rape of The Fair Country.
[6]
Ni ddigwyddodd y prosiect ond mi ganodd Hopkin caneuon teitlau dau o ffilmiau eraill Baker,
Where's Jack?
a
Kidnapped
.
Lansiwyd albwm cyntaf Hopkin, "
Postcard
", a oedd eto wedi cael ei chynhyrchu gan McCartney, ar Chwefror 21, 1969. Roedd yn cynnwys tair can a oedd yn wreiddiol gan
Donovan
, ac un gan yr un gan
George Martin
a
Harry Nilsson
. Cyrhaeddodd rhif 3 ar siartiau albymau'r DU
[2]
ac yn UDA, cyrhaeddodd
Postcard
rif 28 ar siart albymau
Billboard
.
[3]
Ei sengl nesaf oedd "
Goodbye
", wedi'i ysgrifennu gan McCartney (clodrestrir
Lennon-McCartney
), a gafodd ei ryddhau ar Mawrth 26, 1969.
[7]
Cyrhaeddodd rif 2 ar Siartiau Senglau'r DU,
[2]
lle roedd yn cael ei gadw o'r brig gan "
Get Back
" y Beatles, rhif 13 ar
Billboard
Hot 100,
[7]
a rhif 15 ar siart RPM Canada.
[8]
Dywedodd Hopkin ei bod yn dehongli "Goodbye" fel McCartney yn addo peidio a dal ati i reoli man fanylion ei gyfra, gan ei bod yn anghyfforddus gyda'r ffordd yr oedd o'n ei diffinio fel cantores bop.
[9]
Dangosodd hi hefyd anfodlonrwydd gyda'i rheolwr ar yr adeg,
Terry Doran
.
Roedd trydydd sengl Hopkin, "Temma Harbour", yn ail-drefniant o gan gan
Philamore Lincoln
. Hwn buasai'i sengl cyntaf nad oedd wedi cael ei gynhyrchu gan McCartney,
[10]
ac fe'i rhyddhawyd ar Ionawr 16, 1970, gan gyrraedd rhif 6 yn y DG a rhif 42 yng Nghanada.
[8]
Yn UDA, cyrhaeddod rhif 39 ar y
Billboard
Hot 100, a rhif 4 ar siart y cylchgrawn Easy Listening
[11]
. Gyda Donovan a
Billy Preston
, roedd Hopkin yn un o gantorion cytgan a sengl 1970
Radha Krishna Temple
, "
Govinda
", oedd wedi cael ei gynhyrchu gan
George Harrison
i Recordiau Apple.
[12]
Priododd
Tony Visconti
ym 1971; ysgaron nhw ym 1981.
Roedd Hopkin yn aelod y grwp 1980au "Oasis", gyda
Julian Lloyd Webber
a
Peter Skellern
.
Gwelir rhestr o'i recordiau yma:
http://homepage.ntlworld.com/pat.richmonds/discog.htm
Archifwyd
2008-06-14 yn y
Peiriant Wayback
.
- ↑
Rice, Jo (1982).
The Guinness Book of 500 Number One Hits
. Enfield, Middlesex: Guinness Superlatives Ltd. tt.
120
.
ISBN
0-85112-250-7
.
- ↑
2.0
2.1
2.2
Roberts, David (2006).
British Hit Singles & Albums
. Guinness World Records Limited. t. 259.
ISBN
1-904994-10-5
.
- ↑
3.0
3.1
https://www.allmusic.com/artist/mary-hopkin-mn0000316096
- ↑
Murrells, Joseph (1978).
The Book of Golden Discs
. Barrie and Jenkins Ltd. tt.
241
.
ISBN
0-214-20512-6
.
- ↑
"Mary Hopkin Timeline"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2019-02-06.
- ↑
Tobler, John (1992).
NME Rock 'N' Roll Years
. Reed International Books Ltd. t. 191.
- ↑
7.0
7.1
Womack, Kenneth (2014).
The Beatles Encyclopedia: Everything Fab Four
. Santa Barbara. t. 336.
ISBN
978-0-313-39171-2
.
- ↑
8.0
8.1
"RPM Top 100 Singles - May 26, 1969"
(PDF)
.
- ↑
Stuart., Shea, (2007).
Fab Four FAQ : everything left to know about the Beatles-- and more!
. Rodriguez, Robert, 1961-. New York: Hal Leonard.
ISBN
9781423421382
.
OCLC
128237609
.
CS1 maint: extra punctuation (
link
)
- ↑
C., Winn, John (2008?2009).
The Beatles' recorded legacy
(arg. 1st ed). New York: Three Rivers Press.
ISBN
9780307451576
.
OCLC
212855798
.
CS1 maint: date format (
link
) CS1 maint: extra text (
link
)
- ↑
Billboard
magazine, March 1970
- ↑
M., Greene, Joshua (2006).
Here comes the sun : the spiritual and musical journey of George Harrison
. Hoboken, N.J.: John Wiley & Sons.
ISBN
047169021X
.
OCLC
61879673
.