한국   대만   중국   일본 
Martin o Tours - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Martin o Tours

Oddi ar Wicipedia
Martin o Tours
Ganwyd 316  Edit this on Wikidata
Szombathely  Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Tachwedd 397  Edit this on Wikidata
Candes-Saint-Martin  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Rhufain hynafol   Edit this on Wikidata
Galwedigaeth offeiriad Catholig, milwr , esgob Catholig  Edit this on Wikidata
Swydd Esgob Tours  Edit this on Wikidata
Dydd g?yl 11 Tachwedd   Edit this on Wikidata
El Greco : Sant Martin a'r cardotyn

Sant ac Esgob Tours oedd Sant Martin o Tours ( Lladin : Sanctus Martinus Turonensis ; 316 - 8 Tachwedd 397 ). Ganed ef yn Savaria, Pannonia ( Szombathely yn Hwngai heddiw). Roedd ei dad yn swyddog uchel yn y fyddin Rufeinig; yn ddiweddarach symundwud ef i Ticinum , Gallia Cisalpins ( Pavia yn yr Eidal heddiw), lle magwyd Martin. Ymunodd a'r fyddin, a thua 334 roedd yn gwasanaethu yn Ambianensium civitas neu Samarobriva , Gal ( Amiens yn Ffrainc heddiw). Yno, roedd gyda'i filwyr ger porth y ddinas pan welodd gardotyn heb fawr o ddillad. Torrodd Martin ei fantell yn ei hanner, a rhoi un hanner i'r cardotyn. Y noson honno, cafodd weledigaeth mai Iesu Grist oedd y cardotyn. Yn ddiweddarach, aeth i Tours , lle daeth yn ddisgybl i Hilarius o Poitiers , ac yna bu'n byw fel meudwy ar yr Isola d'Albenga . Daeth yn Esgob Tours yn 371 . Yn y Canol Oesoedd , daeth ei fedd yn ninas Tours yn gyrchfan boblogaidd i bererinion. Arferai brenhinoedd y Ffranciaid gario mantell Sant Martin ( cappa yn Llanin, bychanigyn cappilla ) o'u blaenau mewn brwydrau. Yr arferiad yma yw tarddiad y geiriau capel a caplan . Yng Nghymru, rhoddodd ei enw i bentref Castellmartin yn Sir Benfro .