Margaret Price
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/8/84/Margaret_Price.jpg/220px-Margaret_Price.jpg) |
Ganwyd
| 13 Ebrill 1941
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Coed-duon
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu farw
| 28 Ionawr 2011
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Aberteifi
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Alma mater
| - Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png)
|
---|
Galwedigaeth
| canwr opera
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Arddull
| cerddoriaeth glasurol
,
opera
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Math o lais
| soprano
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, CBE
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Cantores
soprano
Cymreig oedd
Y Fonesig Margaret Berenice Price
DBE
(
13 Ebrill
1941
-
28 Ionawr
2011
).
Ganwyd Price yn ysbyty mamolaeth
Tredegar
yn ferch i Thomas Glyn Price, athro peirianneg, a phrifathro diweddarach Coleg Addysg Bellach
Pont-y-p?l
, a'i wraig, Lilian Myfanwy, (nee. Richards) a chafodd ei magu yn y
Coed-Duon
ym mwrdeistref sirol
Caerffili
. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg
Pontllanfraith
, lle nododd ei hathro cerddoriaeth ei thalent leisiol.
[1]
Trefnodd ei athro cerddoriaeth iddi gael clyweliad gyda Charles Kennedy Scott yng Ngholeg Gerdd y Drindod, Llundain. Enillodd ysgoloriaeth i'r coleg lle'i hyfforddwyd fel
mezzo-soprano
. Enillodd wobr
Kathleen Ferrier
yn y coleg.
[2]
Ymunodd gyda Chantorion Ambrosia, cor enwog o Lundain, ar ol gadael y coleg. Gwnaeth berfformio gyda nhw ar drac sain ffilm
Charlton Heston
ym 1961,
El Cid
. Byr bu ei hamser gyda'r cor gan ei bod yn cael trafferth i ganu trwy olwg.
Canodd yn ei hopera gyntaf ym 1962, fel aelod o
Gwmni Opera Cymru
yn chware rhan Cherubino yn
Le nozze di Figaro
gan
Mozart
. Bu hefyd yn chware rhannau Nannetta (
Ffalstaff
gan
Verdi
), Amelia (
Simon Boccanerga
gan Verdi) a Mimi (
La boheme
gan
Puccini
) i Gwmni Opera Cymru.
[3]
Yn yr un flwyddyn cafodd clyweliad gan Georg Solti yn
y T? Opera Brenhinol
,
Covent Garden
. Gwrthododd Solti rhoi rhan iddi gan nad oedd yn credu bod ei llais yn ddigon swynol. Fodd bynnag, fe’i derbyniwyd fel dirprwy, diolch i’r cyfarwyddwr castio Joan Ingpen, a ffurfiodd berthynas bersonol a phroffesiynol agos gyda’r pianydd a’r arweinydd James Lockhart. Ychwanegodd Solti cymal yn ei chontract, a oedd yn nodi na ddylai fyth ddisgwyl cael canu rhan flaenllaw yn y prif d?, felly canodd fan rolau yn unig. Daeth ei llwyddiant ym 1963 pan ganslodd Teresa Berganza berfformiad a chafodd Price gyfle i gymryd yr awenau fel ei dirprwy enwebedig, eto yn rol Cherubino, perfformiad a'i gwnaeth yn enwog dros nos.
[4]
Ar ol hynny, argyhoeddodd Lockhart ar Price i gymryd gwersi canu pellach i wella ei thechneg a datblygu'r ystod uchel oleuol a'i gwnaeth yn un o sopranos telynegol mwyaf poblogaidd y 1970au a'r 1980au.
[5]
Ym 1967, perfformiodd gyda Gr?p Opera Saesneg
Benjamin Britten
yn
Der Schauspieldirektor
gan
Mozart
, ac fel Titania yn
A Midsummer Night's Dream
gan Britten. Ym 1968, dwedodd y beirniad Desmond Shawe-Taylor iddi ganu'n "wych, hyblyg ac ar raddfa fawr" fel Constanze yn
Die Entfuhrung aus dem Serail
gan Mozart yn Glyndebourne.
[6]
Gan nad oedd Price yn mwynhau teithio, roedd hi bob amser yn cadw llwyfan "cartref", lle'r oedd hi'n aros ac yn perfformio am y mwyafrif o bob blwyddyn. Covent Garden oedd ei chartref i ddechrau. O 1971 gwnaeth
yr Almaen
yn ganolfan iddi, yn Cologne Opera i ddechrau lle gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn
Don Giovanni
, ac wedyn yn Opera Gwladol Bafaria ym
Munchen
, lle bu’n byw hyd ymddeol ym 1999.
[4]
Felly ffurfiodd Price berthynas broffesiynol ag
Otto Klemperer
, a arweiniodd at ei recordiad cyntaf o rol fawr mewn opera gyflawn - Fiordiligi yn
Cosi fan tutte
Mozart. Sefydlodd recordiad 1972 Price fel arbenigwr recordio gweithiau Mozart.
[5]
Yn y blynyddoedd a ddilynodd, ymddangosodd Price fel gwestai mewn tai opera pwysig. Daeth ei debut
Opera Metropolitan
,
Dinas Efrog Newydd
ym 1985 fel Desdemona yn
Otello
gan Verdi. Ym 1989 ymddangosodd yng nghynhyrchiad Cwmni Opera Cymru o
Salome
yn Academi Gerdd Brooklyn yn Efrog Newydd, mewn perfformiad a fynychwyd gan Dywysog a Thywysoges Cymru.
[7]
Roedd Price yn fwyaf enwog am ei phortreadau yng ngweithiau Mozart, yn enwedig Fiordiligi a Donna Anna yn
Don Giovanni
, y Contessa yn
Le nozze di Figaro
(ar ol canu Cherubino a Barbarina ar ddechrau ei gyrfa), a Pamina yn
Y Ffliwt Hud
. Yn ogystal, canodd rolau Verdi, fel Amelia (
Un ballo in maschera
, rol a recordiodd hefyd gyda
Luciano Pavarotti
), Elisabetta (
Don Carlos
) a Desdemona (
Otello
), ei rol gyntaf yn y Met, yn ogystal a'r rol deitl yn
Aida
(hefyd gyda Pavarotti yn San Francisco, a gadwyd ar
fideo
), Ariadne Richard Strauss (
Ariadne auf Naxos
) ac
Adriana Lecouvreur
gan Cilea. Roedd Price hefyd yn weithgar iawn fel canwr Lieder, yr un mor gartrefol yn idiomau rhamantus
Franz Schubert
,
Robert Schumann
neu
Richard Strauss
.
Yn ystod ei gyrfa, gwnaeth Price lawer o recordiadau o operau ac o Lieder. Un o'i recordiadau enwocaf yw'r Isolde yn
recordiad
cyflawn Carlos Kleiber o
Tristan und Isolde
gan Richard Wagner, rol na chanodd hi erioed ar lwyfan. Roedd hi'n
Kammersangerin
(cantores fawr) Opera Wladol Bafaria.
Bu farw o fethiant y galon yn ei chartref yn
Nhrewyddel
yn 69 mlwydd oed ac amlosgwyd ei gweddillion yn Amlosgfa Parcgwyn yn
Arberth
.
[8]
Cafwyd rhaglen teyrnged iddi gan
Beti George
ar
Radio Cymru
[9]
a rhaglen goffa
Margaret Price Brenhines y Gan
ar
S4C
.
[10]