Manon Lloyd
Lloyd in 2017
|
Gwybodaeth bersonol
|
---|
Enw llawn
| Manon Haf Lloyd
|
---|
Ganwyd
| (
1996-11-05
)
5 Tachwedd 1996
(27 oed)
Caerfyrddin
, Cymru
|
---|
Gwybodaeth tim
|
---|
Tim presennol
| Team Breeze (ffordd)
British Cycling
(trac)
|
---|
Disgyblaeth
| Seiclo trac
|
---|
Record medalau
Seiclo trac merched
|
Yn cynrychioli
"Prydain Fawr"
|
Pencampwriaethau Ewropeaidd
|
|
Yvelines 2016
|
Rasio ymlid tim
|
|
---|
Mae
Manon Haf Lloyd
(ganwyd
5 Tachwedd
1996
) yn feiciwr trac o Gymru sy'n cystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol. Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop yn 2016, fel rhan o'r tim pursuit.
[1]
Daeth Lloyd yn drydydd yn y gystadleuaeth unigol yn Matrix Fitness Grand Prix 2017.
[2]
Y hynaf o ddau o blant, magwyd Lloyd ar fferm ddefaid ei theulu yng
Nghrwbin
, ger
Cydweli
.
[3]
Mynychodd
Ysgol y Fro
gerllaw yn
Llangyndeyrn
.
[4]
Bu'n mwynhau nofio a rhedeg pan oedd yn iau, a phenderfynodd droi ei llaw at
driathlon
, gan ymuno a'r clwb lleol, Towy Riders, a chychwyn seiclo pan oedd tua 14 oed ar y trac seiclo ym
Mharc Caerfyrddin
.
[3]