한국   대만   중국   일본 
Maddeueb - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Maddeueb

Oddi ar Wicipedia

Nodwedd o system edifeirwch yr Eglwys Gatholig yw maddeueb [1] neu indwlgens . [2] Yn sacrament penyd mae'n rhaid i'r pechadur gyffesu ei bechodau a chael maddeuant gan yr Eglwys, ac yna derbyn cosb dymhorol i wneud yn iawn am bechu yn erbyn Duw . Trwy athrawiaeth Purdan , cai'r Eglwys ryddhau'r pechadur o'i gosb a gwaredu'r enaid rhag dyled y pechodau.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1.   maddeueb . Geiriadur Prifysgol Cymru . Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  2.   indwlgens . Geiriadur Prifysgol Cymru . Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .