MI6
yw'r enw arferol a roddir ar y
Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol
[1]
(
Saesneg
:
Secret Intelligence Service
neu'r
(SIS)
), un o asiantaethau diogelwch y
Deyrnas Unedig
. Y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yw asiantaeth cudd-ymchwil allanol y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o gymuned cudd-ymchwil y wladwriaeth honno. Mae'n cyd-weithio a'r Gwasanaethau Diogelwch (
MI5
), Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gweithlu Cudd-ymchwil Amddiffyn o dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Cudd-ymchwil ar y Cyd (y
Joint Intelligence Committee
(JIC)). Syr John Scarlett yw'r pennaeth presennol.
[2]
Ers
1995
, lleolir pencadlys y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yn
Vauxhall Cross
ar lan ddeheuol
Afon Tafwys
, yn
Llundain
.
Wrth i
UDA
a'r
DU
baratoi i
oresgyn Irac
in 2003, gweithredodd MI6 "
Operation Mass Appeal
", sef ymgyrch i blannu straeon ffug yng nghyfryngau gwledydd Prydain am
arfau dinistriol torfol
(WMD) ym meddiant
Irac
er mwyn cefnogi'r llywodraethau hynny, a oedd yn ceisio defnyddio'r honiad am y WMDau fel esgus cyfreithiol dros y rhyfel yn y
Cenhedloedd Unedig
. Cafodd yr ymgyrch cudd yma ei ddatguddio gan y
Sunday Times
yn Rhagfyr 2003.
[3]
Mae honiadau gan y cyn-swyddog MI6 Scott Ritter yn awgrymu fod yr asiantaeth yn gyfrifol am ymgyrchoedd
propaganda
cyffelyb yn erbyn Irac ers y 1990au cynnar. Mae Ritter yn dweud bod MI6 wedi ei recriwtio yn 1997 i cynorthwyo'r ymgyrch propaganda. Dywed: "
The aim was to convince the public that Iraq was a far greater threat than it actually was
."
[3]
Mae gweithgareddau o'r fath yn mynd yn erbyn rheolau gweithredol MI6 ei hun, am nad yw'n fod i ymyrryd ym materion mewnol y DU.