한국   대만   중국   일본 
M. C. Escher - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

M. C. Escher

Oddi ar Wicipedia
M. C. Escher
Ganwyd Maurits Cornelis Escher  Edit this on Wikidata
17 Mehefin 1898  Edit this on Wikidata
Ljouwert   Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Mawrth 1972  Edit this on Wikidata
Laren  Edit this on Wikidata
Man preswyl Ljouwert , Arnhem , Rhufain   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Brenhiniaeth yr Iseldiroedd  Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol ar gyfer Pensaerniaeth a Chelfyddydau Addurniadol  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwneuthurwr printiau, darlunydd , cynllunydd stampiau post, arlunydd, arlunydd graffig, ffotograffydd, drafftsmon, lithograffydd, cerfiwr coed, cynllunydd, ceramics designer, artist murluniau, cerflunydd, artist  Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Still Life with Spherical Mirror, Waterfall, Ascending and Descending  Edit this on Wikidata
Arddull arlunydd, peintio lluniau anifeiliaid, celf haniaethol, figure, celf tirlun, dinaswedd, bywyd llonydd, hunanbortread  Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad mathemateg , Leonardo da Vinci , Albrecht Durer , Hieronymus Bosch   Edit this on Wikidata
Mudiad celf fodern  Edit this on Wikidata
Tad George Arnold Escher  Edit this on Wikidata
Mam Sara Adriana Gleichman  Edit this on Wikidata
Priod Jetta Umiker  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Urdd Orange-Nassau  Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.mcescher.com/   Edit this on Wikidata

Roedd Maurits Cornelius Escher ( 17 Mehefin 1898 ? 27 Mawrth 1972 ), neu M. C. Escher yn arlunydd graffigol o'r Iseldiroedd a oedd yn adnabyddus am weithiau ar ffurf torluniau pren, lithograffiau a mezzotints.

Bywyd cynnar ac addysg [ golygu | golygu cod ]

Ganwyd ef yn Leeuwarden, Friesland, yn fab ieuengaf i'r peiriannydd sifyl George Arnold Escher a'i ail wraig, Sara Gleichman. Pan oedd tua 5 oed, symudodd y teulu i Arnhem, ac yno y derbyniodd ei addysg tan 1918. Cai ei adnabod gan ei deulu wrth yr enw "Mauk", ac oherwydd gwendid ei iechyd, cafodd ei anfon i ysgol arbennig pan oedd yn 7 oed. Rhagorai ar ddarlunio, ond mae'n debyg mai gwan oedd ei berfformiad mewn meysydd eraill. Derbyniodd wersi gwaith coed a phiano tan oedd yn 13 oed.

Yn 1918, aeth Escher i Goleg Technegol Delft, ac yna, rhwng 1919 a 1922, i Ysgol Bensaerniaeth a Chelfyddyd Addurniadol Haarlem. Yno y datblygodd ei sgiliau darlunio a chreu torluniau pren. Bu'n astudio o dan yr arlunydd graffigol Samuel Jessurun de Mesquita.

Gwaith [ golygu | golygu cod ]

Defnyddiai Escher wrthrychau a thechnegau mathemategol i archwilio syniadau ynghylch annherfynoldeb, adlewyrchiad, cymesuredd a pherspectif. Er i Escher ddweud nad oedd ganddo allu mathemategol, roedd mewn cysylltiad a'r mathemategwyr George Polya, Roger Penrose, Harold Coxeter a'r crystalograffydd Friedrich Haag.

Yn gynnar yn ei yrfa, cafodd Escher ei ysbrydoli gan fyd natur, ac astudiodd drychfilod, tirluniau a phlanhigion. Yn 1922, teithiodd i rannau o'r Eidal a Sbaen, a thrwy astudio pensaerniaeth, datblygodd ddiddordeb mewn mathemateg. Bu'n byw yn Rhufain rhwng 1923 a 1935. Yno y cyfarfu ei wraig Jetta Umiker.

Symudodd Escher a'i deulu i Chateau-d'Œx yn y Swistir yn 1935, ac yna i Uccle ar gyrion Brwsel yng Ngwlad Belg yn 1937. Bu raid symud eto yn 1941 oherwydd y Rhyfel, y tro hwn i Baarn yn yr Iseldiroedd. Creodd rai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn ystod y cyfnod hwnnw rhwng 1941 a 1970.

Cafodd Escher ei symud i gartref preswyl yn Laren yn 1970, ac yno y bu farw yn 73 oed ar 27 Mawrth 1972. Mae wedi'i gladdu yn y fynwent newydd yn Baarn.

Daeth ei gelf yn adnabyddus ymhlith gwyddonwyr a mathemategwyr, ac mewn diwylliant poblogaidd. Ymddangosodd ei waith ar gloriau llyfrau ac albymau, yn ogystal a phapurau technegol.