Lucius Licinius Lucullus
|
---|
|
Ganwyd
| c. 117
CC
Rhufain hynafol
|
---|
Bu farw
| c. 57
CC
Unknown
|
---|
Man preswyl
| Rhufain
|
---|
Dinasyddiaeth
| Rhufain hynafol
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig
|
---|
Swydd
| quaestor, aedile, seneddwr Rhufeinig,
Conswl Rhufeinig
,
Praetor
|
---|
Plaid Wleidyddol
| optimates
|
---|
Tad
| Lucius Licinius Lucullus
|
---|
Mam
| Caecilia Metella
|
---|
Priod
| Clodia, Servilia Minor
|
---|
Plant
| Unknown, Licinia, Marcus Licinius Lucullus
|
---|
Perthnasau
| Faustus Cornelius Sulla, Fausta Cornelia, Cornelia Postuma
|
---|
Llinach
| Licinii Luculli
|
---|
Cadfridog a
chonswl
Rhufeinig
oedd
Lucius Licinius Lucullus
(tua
118
-
56 CC
).
Ganed Lucullus yn
Rhufain
, yn aelod o deulu amlwg. Dechreuodd ei wasanaeth milwrol fel tribwn milwrol yn ystod
Rhyfel y Cyngheiriaid
(91?88 CC), yn gwasanaethu dan
Sulla
, oedd yn perthyn iddo trwy briodas. Fel
quaestor
yn
88 CC
, ef oedd yr unig un o swyddogion Sulla i'w gefnogi pan ddefnyddiodd ei fyddin i gipio grym yn Rhufain.
Bu'n ymladd dan Sulla yn y cyntaf o ryfeloedd Rhufain yn erbbyn
Mithridate VI
, brenin
Pontus
. Ef oedd yn gyfrifol am y llynges Rufeinig, ac ym Mrwydr Tenedos gorchfygodd Neoptolemus, llynghesydd Mithridates. Wedi gwneud cytundeb heddwch a Mithridates, arhosodd Lucullus yn Asia i gasglu'r arian oedd yn ddyledus gan y dalaith fel dirwy am wrthryfela.
Daeth yn gonswl yn
74 CC
, gyda
Marcus Aurelius Cotta
, ewythr
I?l Cesar
. Yn wreiddiol, rhoddwyd talaith
Gallia Cisalpina
iddo i'w llywodraethu, ond llwyddodd i'w newid i
Cilicia
er mwyn medru ymladdd yn erbyn Mithridates eto. Enillodd nifer o fuddugoliaethau dros Mithridates, a'i orfodi i encilio i Pontus. Ymosododd ar
Tigranes Fawr
, brenin
Armenia
, oedd mewn cynghrair a Mithridates, a'i orchfygu mewn brwydr ger ei brifddinas,
Tigranocerta
. Enillodd fuddugoliaeth arall dros Tigranes a Mithridates ym mrwydr Artaxata ar
6 Hydref
68 CC
, ond erbyn hyn roedd anfodlonrwydd ymhlith ei filwyr, a gallodd Tigranes a Mithridates gipio rhan o'u teyrnasoedd yn ol. Llwyddodd
Gnaeus Pompeius Magnus
i berswadio'r Senedd i alw Lucullus yn ol i Rufain a'i wneud ef ei hun yn gadfridog i orffen y rhyfel.
Surodd hyn Lucullus, ac ymddeolodd i fywyd preifat. Dath yn enwog am foethusrwydd ei ffordd o fyw, gan ddefnyddio'r cyfoeth roedd wedi ei gasglu yn y dwyrain.