Louis Dduwiol
|
---|
|
Ganwyd
| 16 Ebrill 778, 20 Ebrill 778, Medi 778
Chasseneuil-du-Poitou
|
---|
Bu farw
| 20 Mehefin 840, 24 Mehefin 840
Ingelheim am Rhein
|
---|
Dinasyddiaeth
| Ymerodraeth y Carolingiaid
|
---|
Galwedigaeth
| teyrn, brenin neu frenhines
|
---|
Swydd
| dug Bafaria, brenin y Ffranciaid, Carolingian Roman emperor
|
---|
Tad
| Siarlymaen
|
---|
Mam
| Hildegard
|
---|
Priod
| Ermengarde of Hesbaye, Judith of Bavaria
|
---|
Partner
| Theudelinde de Sens
|
---|
Plant
| Lothair I
,
Louis yr Almaenwr
, Gisela,
Siarl Foel
, Arnulf of Sens, Rotrude, Bertha, Hildegard, princess of Francia, Pepin I of Aquitaine, Alpais, Adelaide d'Aquitaine, Hildegarde
|
---|
Llinach
| Y Carolingiaid
|
---|
Roedd
Louis Dduwiol
(Mehefin/Awst
778
-
23 Mehefin
840
) yn
Ymerawdwr Glan Rhufeinig
a brenin
Aquitania
.
Louis oedd trydydd mab
Siarlymaen
, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Bu ganddo bedwar mab a nifer o ferched. O'i wraig gyntaf,
Ermenganda de Hesbay
, cafodd dri mab,
Lothair I
a ddaeth yn Ymerawdwr Glan Rhufeinig,
Louis yr Almaenwr
a
Pipin o Aquitania
. O'i ail wraig,
Judith, merch Welf
, cafodd fab arall,
Siarl Foel
.
Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn
838
, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan
Gytundeb Verdun
.