한국   대만   중국   일본 
Llysieuaeth - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Llysieuaeth

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hwn yn cyfeirio at ddiet dyn, ar gyfer diet anifeiliaid sy'n seiliedig ar blanhigion gweler llysyddiaeth
Amryw o gynhwysion bwyd llysieuol

Diet sy'n eithrio cig (gan gynnwys helwriaeth , pysgod , dofednod ac unrhyw sgil gynnyrch lladd anifeiliaid) yw llysieuaeth . [1] [2] Mae sawl amrywiaeth ar y diet sy'n eithrio wyau a neu unrhyw gynnyrch anifeiliaid megis cynnyrch llaeth a mel .

Ffurf o lysieuaeth yw diet fegan , sy'n eithrio pob cynnyrch anifeiliaid megis cig, pysgod, cynnyrch llaeth, ac wyau. Mae feganiaeth llym hefyd yn eithrio'r defnydd o gynnyrch anifeiliaid megis gwlan , sidan , lledr a ffwr ar gyfer gwisg neu addurn, er nad yw'r rhain yn ymwneud a marwolaeth neu laddfa anifail. [3]

Mae'r rhan fwyaf o lysieuwyr yn bwyta cynnyrch llaeth ac wyau. Mae llysieuaeth-lactos yn cynnwys cynnyrch llaeth ond yn eithrio wyau, llysieuaeth-ofo yn cynnwys wyau ond nid cynnyrch llaeth, ac mae llysieuaeth-lactos-ofo yn cynnwys wyau a chynnyrch llaeth.

Mae diet rhannol-lysieuaeth yn cynnwys bwydydd llysieuol yn bennaf, ond hefyd yn cynnwys pysgod ac weithiau dofednod , yn ogystal ag wyau a chynnyrch llaeth. Mae'r cysylltiad rhwng rhannol-lysieuaeth a gwir lysieuaeth yn gyffredin yn achosi cymysgedd yn yr eirfa, yn arbennig llysieuaeth-pysgod sy'n cynnwys pysgod, a cham-gategoreiddio nifer o ddietau fel rhai llysieuol. [4] [5] Dechreuwyd defnyddio'r term llysieuwyr yn gyffredin gan Gymdeithas y Llysieuwyr , cyn gynhared a 1847, mae'r gymdeithas yn condemnio cysylltiad dietau rhannol-lysieuaeth fel llysieuaeth ddilys; mae'n gymdeithas yn dweud nad yw bwyta pysgod yn llysieuol. [6]

Mae'r rhesymau dros ddewis llysieuaeth yn amrywio o foesoldeb, crefydd, diwylliant, moeseg, estheteg, amgylchedd, cymdeithas, economi, gwleidyddiaeth, blas neu iechyd. Mae dietau llysieuol sydd wedi eu cynllunio'n gywir wedi eu canfod i ateb anghenion maeth pob cyfnod o fywyd, ac mae astudiaethau ehangach wedi dangos fod llysieuaeth yn arwain i debygolrwydd llai o ddatblygu cancr , clefyd y galon ischaemig , a chlefydau eraill. [7] [8] [9] [10]

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Saesneg)   The Vegetarian Society - Definitions Information Sheet . The Vegetarian Society.
  2. (Saesneg)   Vegetarian . Compact Oxford English Dictionary. " a person who does not eat meat for moral, religious, or health reasons. diffinnir 'meat' fel 'the flesh of an animal as food'] "
  3. (Saesneg) Diffiniad geiriadur o'r gair 'Vegan'
  4.   Vegetarian Meal Planning . uwhealth.org.
  5. Bryant A. Stamford, Becca Coffin (1995). The Jack Sprat Low-Fat Diet . University Press of Kentucky. ISBN 081310856X , 9780813108568
  6. "VEGETARIANS DO NOT EAT FISH!" Archifwyd 2015-03-15 yn y Peiriant Wayback . Ymgyrch Pysgod Cymdeithas y Llysieuwyr
  7. Timothy J Key ac eraill , "Mortality in vegetarians and nonvegetarians: detailed findings from a collaborative analysis of 5 prospective studies" American Journal of Clinical Nutrition, Vol. 70, No. 3, 516S-524S, Medi 1999 [1]
  8. Timothy J Key ac eraill , "Mortality in British vegetarians: review and preliminary results from EPIC-Oxford" American Journal of Clinical Nutrition, Vol. 78, No. 3, 533S-538S, Medi 2003 [2]
  9.   Vegetarian Diets . American Dietetic Association a Dietitians of Canada .
  10.   Meat can raise your lung cancer risk, too . MSNBC (11 Rhagfyr 2007).

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]

Chwiliwch am llysieuaeth
yn Wiciadur .