Diplomydd
sydd yn cynrychioli ei
wladwriaeth
fel pennaeth ar
lysgenhadaeth
mewn gwladwriaeth arall yw
llysgennad
. Dyma'r swydd uchaf ei radd yn y corfflu diplomyddol.
[1]
Mae'n rhai i wladwriaethau gyfathrebu er mwyn cynnal
cysylltiadau rhyngwladol
, ac felly gwaith y llysgennad sydd wedi galluogi gwladweinyddiaeth ryngwladol erstalwm. Gellir olrhain hanes y llysgennad i'r Hen Tsieina ac India, er nad oedd cyfundrefn ffurfiol o lysgenadaethau parhaol wedi datblygu yn yr un o'r systemau gwladwriaethau hynafol. Yr arfer yn yr Henfyd oedd i ddanfon rhedegyddion neu genhadon gyda negeseuon neu lawnalluogwyr dros dro gyda'r awdurdod i drafod a dod i delerau ar
gytundebau
.
Datblygodd yr arfer o lysgenhadon preswyl ar y cyd a'r
system wladwriaethau
Ewropeaidd
yn y 14g a'r 15g, yn gyntaf yng
Ngweriniaeth Fenis
a
Dugiaeth Milan
. Bu'r syniad o
freinryddid diplomyddol
y llysgennad yn preswyl ynghlwm wrth y drefn newydd hon, ac yn ddiweddarach estynnwyd y fraint hon i'w staff. Dyma'r egwyddor a osodai sail i'r
gyfraith ryngwladol
fodern gan iddi warantu diogelwch personol y llysgennad a phreifatrwydd ei ohebiaeth ddiplomyddol, rheol a gytunwyd arni gan bob gwladwriaeth er mwyn sicrhau triniaeth debyg.
Cydnabuwyd y drefn lysgenhadol breswyl yng
Nghynhadledd Fienna
(1815), a gytunodd i ddiffinio gwahanol swyddi'r corfflu diplomyddol a chyhoeddi protocol yn pennu dyletswyddau a threfn blaenoriaeth y cenhadaethau diplomyddol. Perchir y protocol hwnnw hyd heddiw, a chadarnhawyd trefn lysgenhadol
Cytgord Ewrop
gan Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Diplomyddol (1961).
Mae ambell ysgolhaig a sylwebydd ar bwnc diplomyddiaeth yn dadlau bod llinellau cyfathrebu modern, yn ogystal a dirywiad honedig y
genedl-wladwriaeth
draddodiadol wedi tanseilio'r hen drefn o lysgenhadon. Annhebygol fyddai llywodraethau yn cael gwared a'r system ffurfiol sydd wedi profi mor lwyddiannus ers canrifoedd, er bod nifer ohonynt wedi cwtogi ar adnoddau'r gwasanaethau diplomyddol ac yn ffafrio cysylltiadau masnachol dros faterion uwch-bolisi, sef rol draddodiadol y llysgennad. Mae twf sefydliadau rhyngwladol a goruwchgenedlaethol, a threfnau newydd sydd yn adeiladu at y syniad o
gymuned ryngwladol
, wedi trawsnewid yr hen batrwm diplomyddol dwyochrog yn un amlochrog, ond mae'n debyg byddai'r angen am gynrychiolaeth mewn gwladwriaethau eraill drwy gyfrwng llysgenhadon yn parhau.
[2]
- ↑
llysgennad
.
Geiriadur Prifysgol Cymru
. Adalwyd ar 4 Awst 2020.
- ↑
Graham Evans a Jeffrey Newnham,
The Penguin Dictionary of International Relations
(Llundain: Penguin, 1998), tt. 16?17.