Mae
Llyn Ohrid
(
Macedonieg
: Охридско Езеро,
Ohridsko Ezero
;
Albaneg
:
Liqeni i Ohrit
) yn
llyn
ar y ffin fynyddig rhwng de-orllewin
Gogledd Macedonia
a dwyrain
Albania
, ger dinas
Ohrid
.
Mae'n bosibl ei fod y llyn hynaf yn
Ewrop
, gyda
ecosystem
unigryw sy'n gartref i 200
rhywogaeth
endemig o bwysigrwydd byd-eang. Cadarnheuwyd pwygigrwydd y llyn pan gafodd ei ddatgan yn
Safle Treftadaeth y Byd
gan
UNESCO
yn
1979
. Fodd bynnag, mae gweithgaredd pobl sy'n byw ar ei lan yn dechrau rhoi'r ecosystem dan bwysau.
Rhedai'r ffordd Rufeinig bwysig y
Via Egnatia
, a gysylltai
Durres
a
Mor Adria
yn y gorllewin a
Byzantium
(
Istanbul
) a'r
Bosphorus
yn y dwyrain, o gwmpas Llyn Ohrid.