Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Michigan ( Saesneg : Lake Michigan ). Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y pedwerydd fwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Mor Caspia yn for yn hyrach na llyn. Gellir ystyried fod Llyn Michigan a Llyn Huron yn un llyn yn hytrach na dau. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn. Credir fod yr enw yn dod o'r Ojibweg mishigami , yn golygu "d?r mawr".
Llyn Michigan yw'r unig un o'r Llynnoedd Mawr sy'n gyfangwbl o fewn yr Unol Daleithiau . O'r gorllewin i'r dwyrain, mae'n ffinio ar daleithiau Wisconsin , Illinois , Indiana a Michigan . Mae ei arwynebedd yn 58,016 km2, ac mae'n cynnwys 4,918 km³ o dd?r. Ceir nifer o ddinasoedd ar ei lan; yr enwocaf yw Chicago .