Y weithred o roi arian neu rodd er mwyn newid ymddygiad y derbynnydd ydy
llwgrwobrwyaeth
. Mae'n drosedd a ddiffinir gan
Black's Law Dictionary
fel
cynnig
,
rhoi
,
derbyn
, neu
ddeisyfu
unrhyw eitem o werth er mwyn dylanwadu ar weithredoedd person swyddogol neu berson sy'n gyfrifol am
ddyletswydd
gyhoeddus neu
gyfreithiol
.
Y llwgrwobr yw'r rhodd a roddir er mwyn dylanwadu ar ymddygiad y derbynnydd. Gall fod yn
arian
,
nwyddau
,
eiddo
,
dyrchafiad
,
anrhydedd
,
cyflog
, gwrthrych gwerthfawr, mantais neu hyd yn oed addewid i ddylwanwadu ar weithred, pleidlais, neu ar berson mewn swyddogaeth gyhoeddus.
[1]
Yn fiwrocrataidd, ystyrir llwgrwobrwyo fel achos cynnydd yng nghost nwyddau a gwasanaethau.