Llong hwylio
yw’r term a ddefnyddir am long sy’n defnyddio hwyliau yn hytrach na pheiriant neu rwyfau i’w symud. Dylid nodi fod y term “llong” hefyd ag ystyr arbennig yn ystod oes aur llongau hwyliau, pan oedd yn cael ei ddefnyddio am un math arbennig ar long.
Mae defnyddio hwyliau yn mynd yn ol o leiaf i gyfnod yr
Hen Aifft
. Yn yr hen fyd roedd yr hwyliau yn aml yn cael eu defnyddio ar y cyd a rhwyfau, er enghraifft yn y
trireme
Groegaidd. Roedd hyn yn nodweddiadaol o longau rhyfel, tra’r oedd llongau masnach yn tueddu I ddefnyddio hwyliau yn unig.
Y
19g
oedd oes aur y llongau hwyliau ar gyfer masnach. Tua chanol y ganrif dechreuwyd rhoi periant ager bychan yn rhai ohonynt, i’w defnyddio pan nad oedd gwynt; roedd y
Royal Charter
yn esiampl o’r rhain. Yn raddol daeth llongau ager y fwy effeithiol ac yn rhatach, ac ni fu fawr o adeiladu llongau hwyliau newydd yn y gorllewin ar ol y
Rhyfel Byd Cyntaf
. Ychydig o longau hwyliau sy’n cael eu defnyddio yn y gorllewin bellach, weithiau ar gyfer hyfforddi llongwyr, er fod nifer fawr o gychod hwylio yn cael eu defnyddio ar gyfer pleser. Mae mwy o ddefnydd arnynt yn rhai o wledydd y dwyrain, er enghraifft mae nifer yn parhau i gael eu defnyddio i gludo nwyddau rhwng ynysoedd
Indonesia
.
Roedd llongau hwylio yn cael eu rhannu yn nifer fawr o wahanol fathau, yn aml yn dibynnu ar y nifer o fastiau a’r dull roedd yr hwyliau wedi eu gosod. Gellir gosod yr hwyliau mewn dau ddull gwahanol, ar hyd y cwch (
fore and aft rig
yn Saesneg) fel ar iotiau heddiw, neu yn groes i’r cwch (
square rig
). Rhai o’r prif fathau oedd:
Carafel
: math a ddefnyddid gan forwyr
Portiwgal
a
Sbaen
ar ddiwedd
yr Oesoedd Canol
a dechrau'r cyfnod modern.
Sgwner
: dau neu dri mast, y prif hwyliau I gyd ar hyd y cwch.
Barc
: tri neu bedwar mast, y ddau neu dri mast blaenaf gyda’r prif hwyliau’n groes, y mast cefn gyda’r hwyliau ar hyd y cwch.
Barcentin
: tri mast neu fwy,y mast blaen a'r hwyliau'n groes a'r mastiau eraill a'r hwyliau ar hyd y cwch.
Brig
: dau fast, y ddau a'r hwyliau'n groes.
Brigantin
: dau fast, y mast blaen a'r hwyliau'n groes a'r mast cefn a'r hwyliau ar hyd y cwch.
"Llong" : tri neu bedwar mast, gyda’r prif hwyliau yn groes ar bob mast.
-
Brigantin
-
Y
Mare Frisium
, sgwner dri mast yn hwylio
-
Y carafel
Lisa
-
Y
Mercator
, barcentin yn llong amgueddfa yn Ostend, Gwlad Belg
-
Llongau hwyliau ger Ujung Pandang ar ynys Sulawesi, Indonesia
-
Jync yn Hong Kong
-
Llong hwylio draddodiadol o India
-
Y brig
Lady Washington
ger arfordir Califfornia yn 2005
-
Y llong
Christian Radich
o Norwy