Roedd
Sawney Bean
yn llofrudd cyfresol chwedlonol yr Alban. Dywedir iddo ef a'i dylwyth ladd a bwyta cnawd mwy na 1,000 o bobl mewn 25 mlynedd yn yr 16g.
Unigolyn yw
llofrudd cyfresol
sydd wedi
llofruddio
o leiaf tri pherson dros gyfnod o fwy na mis gyda seibiant rhwng y llofruddiaethau, ac sydd a boddhad
seicolegol
fel y prif sail i'w gymhell dros ladd. Mae rhai diffiniadau yn labelu person yn llofrudd cyfresol os ydynt wedi lladd dau berson yn unig. Yn aml, ceir elfen rywiol i'r llofruddiaethau, ond yn ol yr
FBI
mae cymhellion dros lofruddiaeth gyfresol hefyd yn cynnwys "dicter, ias, elw ariannol, a
cheisio am sylw
". Gall fod rhyw fodd tebyg gan y llofruddiaethau (y
modus operandi
) neu all fod rhywbeth yn gyffredin gan y dioddefwyr, er enghraifft eu galwedigaeth, hil, golwg, rhyw, neu gr?p oedran.
Mae llofrudd cyfresol yn wahanol i
lofrudd torfol
, sy'n lladd nifer o bobl ar yr un adeg, a
llofrudd sbri
, sy'n lladd mewn dau leoliad neu fwy heb doriad rhwng y llofruddiaethau.