Pentrefan yng
nghymuned
Llanengan
,
Gwynedd
,
Cymru
, yw
Llangian
[1]
[2]
(
ynganiad
) Saif ar
Benrhyn Ll?n
, gerllaw
Afon Soch
a fymryn i'r gogledd-orllewin o
Abersoch
. Enillodd y pentref wobr y pentref taclusaf yng Nghymru nifer o weithiau yn ystod y 1950au a'r 1960au.
[
angen ffynhonnell
]
Cynrychiolir yr ardal hon yn
Senedd Cymru
gan
Mabon ap Gwynfor
(
Plaid Cymru
)
[3]
ac yn
Senedd y DU
gan
Liz Saville Roberts
(
Plaid Cymru
).
[4]
Mae'r eglwys yn gysylltiedig a theulu
Nanhoron
, ac mae cofeb ynddi i'r Capten Timothy Edwards a fu farw o dwymyn ar fwrdd llong yn 1780. Rhoddodd ei weddw, Catherine Edwards dir i godi'r Capel Newydd i'r Piwritaniaid cynnar.
Ym mynwent yr eglwys mae carreg fedd o'r
5ed
neu'r
6g
, gydag arysgrif
Lladin
arni: MELI MEDICI / FILI MARTINI / IACIT. Gellir ei gyfieithu fel "(Carreg) Melus y meddyg, mab Martinus. Mae'n gorwedd (yma)". Mae cael cyfeiriad at broffesiwn yr ymadawedig yn brin iawn ar y cerrig beddi cynnar hyn, a dyma'r unig gyfeiriad at feddyg sydd wedi goroesi o'r cyfnod yma yn Ynysoedd Prydain.
Brodor o Langian oedd y llenor a'r hynafiaethydd
John Jones (Myrddin Fardd)
.
- Frances Lynch,
Gwynedd
, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
- Gruffudd Parry,
Crwydro Ll?n ac Eifionydd
(Llyfrau'r Dryw, 1960)