Pentref yng
nghymuned
Mechell
,
Ynys Mon
, yw
Llanfechell
(
ynganiad
)). Saif yng ngogledd yr ynys tua 2 filltir i'r de o bentref
Cemaes
, ar yr arfordir i'r gogledd, a milltir i'r de o bentref
Tregele
, lle mae lon yn rhedeg o'r pentref hwnnw i Lanfechell.
Yn ol cyfrifiad 2011, poblogaeth y pentref yw 1,293. Yn y pentref mae eglwys, tafarn (Y Cefn Glas), caffi (Caffi Siop Mechell), ysgol gynradd (Ysgol Gymuned Llanfechell), siop (Siop Isfryn) a dau gapel (Ebeneser a Libanus).
Meini hirion Llanfechell
Capel Libanus Chapel - geograph.org.uk - 1263315
Enwir yr eglwys a'r pentref ar ol Sant
Mechell
(neu Mechyll), fab Echwydd ap Gwyn Gohoyw, a flodeuai yn y
5g
. Coffheir y sant mewn enw lle arall yn yr ardal, sef cymuned fechan Mynydd Mechell, filltir i'r de o'r pentref presennol.
Mae rhannau o'r eglwys, sydd ar ffurf
croes
, yn dyddio i'r
12g
. Ychwanegwyd cangell yn y
13g
a
chlochdy
yn yr
16g
. Mae'r bedyddfaen yn perthyn i'r 12g. Ym mhorth yr eglwys gellir gweld beddfaen gyda cherflun anghyffredin o groes flodeuog arno, sydd i'w ddyddio i'r 13g.
Ceir sawl safle archaeolegol ger y pentref. Fymryn i'r gogledd ceir
cromlech
ar Foel Fawr ac yn agosaf i'r pentref i'r un cyfeiriad ceir triongl o feini a elwir yn Feini Hirion. Hanner milltir i'r dwyrain ceir
maen hir
ar dir Carrog. Yng nghyffiniau Mynydd Mechell ceir Maen
Arthur
.
Adeiladau a chofadeiladau
[
golygu
|
golygu cod
]
William Bulkeley
1691-1760, man-fonheddwr, ffermwr a dyddiadurwr. Mae hanes ei ddyddiaduron helaeth i’w weld yma
[1]
a’u cofnodion amaethyddol, ffenolegol a hinsoddol yn gyrchadwy yma
[2]
ar wefan prosiect
Llen Natur
.
Imogen Longman