Pentref bychan yng
nghymuned
Llanddoged a Maenan
,
bwrdeistref sirol Conwy
,
Cymru
, yw
Llanddoged
.
[1]
Gorwedd y pentref ar lethrau dwyreiniol
Dyffryn Conwy
tua milltir a hanner i'r gogledd o
Lanrwst
.
Yn ol traddodiad, sefydlwyd Llanddoged gan
Sant
Doged
(bl.
500
-
542
). Mae'n bosibl mai'r un yw'r Doged hwn a'r 'Doged Frenin' y cyfeirir ato yn y chwedl
Culhwch ac Olwen
. Llanddoged yw'r unig eglwys a gysylltir a Doged. Ar un adeg bu cerflun ohono yn yr eglwys. Mewn cae 60m o'r eglwys bresennol ceir Ffynnon Ddoged. Mae wal o gerrig o'i chwmpas a dywedir ei bod yn iachau nam ar y llygaid. Claddwyd y telynor
Evan Jones (Ifan y Gorlan)
(1787-1859) ym mynwent yr eglwys.
Ceir ysgol gynradd a pharc yn y pentref.