Lili?uokalani
|
---|
|
Ganwyd
| Lydia Lili?u Loloku Walania Kamaka?eha
2 Medi 1838
Honolulu
|
---|
Bu farw
| 11 Tachwedd 1917
Honolulu
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
, Teyrnas Hawai?i
|
---|
Alma mater
| - Royal School
|
---|
Galwedigaeth
| ysgrifennwr
,
cyfansoddwr
, teyrn, hunangofiannydd
|
---|
Swydd
| teyrn
|
---|
Adnabyddus am
| He Mele Lahui Hawaii
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Hawaiian National Party
|
---|
Tad
| Kapaakea
|
---|
Mam
| Keohok?lole
|
---|
Priod
| John Owen Dominis
|
---|
Plant
| John ?Aimoku Dominis
|
---|
Perthnasau
| K?nia
|
---|
Llinach
| House of Kal?kaua
|
---|
Gwobr/au
| Urdd y Goron Werthfawr, Dosbarth 1af, Urdd y Goron Werthfawr
|
---|
llofnod
|
---|
|
Awdur, cyfansoddwraig cerddoriaeth Hawaiaidd a brenhines olaf
Teyrnas Hawai
oedd
Lili?uokalani
(ganwyd yn
Lydia Lili?u Loloku Walania Wewehi Kamaka?eha
;
2 Medi
1838
?
11 Tachwedd
1917
). Teyrnasai o 29 Ionawr 1891 hyd ddymchweliad Teyrnas Hawai ar 17 Ionawr 1893.
Fe'i ganwyd ar 2 Medi 1838 yn
Honolulu
ar ynys
O?ahu
.
Analea Keohok?lole
a
Caesar Kapa?akea
oedd ei rhieni ond fe'i mabwysiadwyd yn anffufiol (
h?nai
) ar ei genedigaeth gan
Abner P?k?
a
Laura K?nia
. Magwyd hi gyda theulu
Bernice Pauahi Bishop
, sylfaenydd
Ysgolion Kamehameha
. Bedyddiwyd hi'n
Gristnoges
a'i haddysgu yn yr Ysgol Frenhinol yn Hawai. Ystyrid hi, ei brodyr, ei chwiorydd a'i chefndryd yn gymwys i esgyn i'r orsedd gan y Brenin
Kamehameha III
.
Priododd hi
John Owen Dominis
, a anwyd yn America ac a ddaeth yn Llywodraethwr O?ahu wedyn. Nid oedd gan y par blant biolegol ond fe fabwysiadasant sawl un. Ar ol i'w brawd
Kal?kaua
ddod yn frenin ym 1874, cafodd ei brodyr, ei chwiorydd a hithau deitlau Tywysog a Thywysoges yn null y Gorllewin. Ym 1877, ar ol i'w brawd iau
Leleiohoku II
farw, cyhoeddwyd hi'n etifedd eglur i'r orsedd. Yn ystod hanner canmlwyddiant y
Frenhines Fictoria
, hi oedd yn cynrychioli ei brawd fel y llysgennad swyddogol i'r Deyrnas Unedig.
Daeth Lili?uokalani yn frenhines ar 29 Ionawr 1891 ar ol marwolaeth ei brawd. Yn ystod ei theyrnasiad, ceisiodd lunio cyfansoddiad newydd a fyddai'n adfer grym y fonarchiaeth a rhoi'r hawl i bleidleisio i bobl ddifreintiedig. Oherwydd bygythiad ei hymdrechion i ddiddymu
Cyfansoddiad Bayonet
, diorseddodd pobl bleidiol i America yn Hawai y fonarchiaeth ar 17 Ionawr 1893. Cefnogwyd hyn wrth i
for-filwyr yr Unol Daleithiau
lanio dan
John L. Stevens
, a olygai na allai'r fonarchiaeth amddifyn ei hun. Ar ol methiant
Gwrthryfel Wilcox
ym 1895, cyfyngwyd Lili?uokalani i
Balas ?Iolani
gan lywodraeth
Gweriniaeth Hawai
. Roedd rhai wedi ymdrechu i adfer y fonarchiaeth a gwrthwynebu cydio'r wlad wrth Unol Daleithiau America, ond yn dilyn
Rhyfel Sbaen?America
, fe ddaeth Gwerinaeth Hawai yn rhan o'r Unol Daleithiau.
Bu Lili?uokalani byw gweddill ei bywyd fel dinesydd preifat a marw yn ei th?
Washington Place
yn Honolulu ar 11 November 1917.