Bardd, nofelydd, canwr a newyddiadurwr
Cymreig
oedd
Lewis William Lewis
(
31 Mawrth
1831
?
23 Mawrth
1901
), a oedd yn adnabyddus wrth ei
enw barddol
Llew Llwyfo
(neu "Y Llew" ar lafar).
Ganed ef ym mhentref
Penysarn
,
Llanwenllwyfo
, ger
Amlwch
,
Ynys Mon
. Bu'n gweithio yng ngwaith copr
Mynydd Parys
a gyfnod, yna bu'n brentis brethynnwr ym
Mangor
cyn cadw siop ei hun ym Mhensarn ac wedyn ysgol yn
Llanallgo
. Bu'n gweithio ar staff nifer o bapurau newydd Cymraeg mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys cyfnod fel golygydd
Y Glorian
yng
Nghasnewydd
. Bu yn yr
Unol Daleithiau
o 1868 hyd 1874.
[1]
Daeth yn adnabyddus iawn fel canwr mewn cyngherddau, ac fel arweinydd eisteddfodau. Fel bardd, enillodd nifer o wobrau yn yr
Eisteddfod Genedlaethol
, gan gynnwys y Goron yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1888
a
Llanelli 1895
.
[1]
Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi. Fe'i cofir hefyd fel un o arloeswyr cynnar y
nofel
yn Gymraeg, yn enwedig am
Llewelyn Parri
(1855) a
Huw Huws
(1860).
By farw yn
Y Rhyl
a chladdwyd ef ym Mynwent
Llanbeblig
, Caernarfon.
[1]
- Awen Ieuanc
(1851)
- Llewelyn Parri: neu y Meddwyn Diwygiedig
(nofel) (1855)
- Huw Huws neu y llafurwr Cymreig
(nofel) (1860)
- Llyfr y Llais
(1865)
- Troadau yr Olwyn
(1865)
- Gemau Llwyfo
(1868)
- Y Creawdwr
(1871)
- Cyfrinach Cwm Erfin, a Y Wledd a'r Wyrth (nofelau)
- Buddugoliaeth y Groes
(1880)
- Cydymaith yr herwheliwr: neu a gollwyd ac a gafwyd. Chwedl Wledig
(1882)
- Adgofion Llew Llwyfo o'i Ymdaith yn America, ganddo ef ei hun
- Bywgraffiad Llew Llwyfo, yn llenyddol, cerddorol, ac eisteddfodol, wedi ei ysrifennu ganddo ef ei hun
(Llyfrau Ceiniog Humphreys Caernarfon);
- ↑
1.0
1.1
1.2
Eryl Wyn Rowlands,
Y Llew oedd ar y Llwyfan
(Caernarfon, 2001).