Lewis Morris
|
---|
|
Ffugenw
| Llywelyn Ddu o Fon
|
---|
Ganwyd
| 2 Mawrth 1701 (yn y
Calendr Iwliaidd
)
Llanfihangel Tre'r Beirdd
|
---|
Bu farw
| 11 Ebrill 1765
Penbryn
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Galwedigaeth
| mapiwr, hynafiaethydd, syrfewr tir,
bardd
, rhwymwr llyfrau, argraffydd
|
---|
Tad
| Morris ap Rhisiart
|
---|
Plant
| William Morris
|
---|
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler
Lewis Morris (gwahaniaethu)
Llenor a hynafiaethydd o
Ynys Mon
a chwareodd ran flaenllaw yn
nadeni llenyddol y ddeunawfed ganrif
oedd
Lewis Morris
(
2 Mawrth
1701
?
11 Ebrill
1765
). Ei
enw barddol
oedd
Llywelyn Ddu o Fon
. Roedd Lewis yr hynaf o bedwar brawd. Gyda'i frodyr dawnus
Richard
a
William
a beirdd a hynafiaethwyr eraill fel
Goronwy Owen
,
Ieuan Fardd
a
Huw Huws
, roedd Lewis yn ffigwr canolog yn y mudiad llenyddol y cyfeirir ati fel
Cylch y Morrisiaid
.
Ganed Lewis Morris yn y Tyddyn Melys, ym mhlwyf
Llanfihangel Tre'r-beirdd
a'i fagu ar fferm Pentre-eiriannell, ger
Penrhosllugwy
, Mon. Roedd ei dad Richard Morys yn gowper a saer ac yn hanfod o deulu
Bulkeley
, ond doedd y teulu ddim yn gefnog a phur caled oedd blynyddoedd cynnar Lewis. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond llwyddodd i ddysgu crefft syrfeio. Yn
1729
roedd yn swyddog dollfa yng
Nghaergybi
yn casglu'r dreth ar halen. Yn y flwyddyn honno priododd ei wraig gyntaf Elisabeth Griffith, o D? Wydryn ger Caergybi. Cafodd ei gyflogi i wneud arolwg o dir ystad
Bodorgan
gan Owen Meyrick yn
1734
. O
1737
hyd
1744
ymgymrodd a'r dasg anferth o fapio a syrfeio arfordir Cymru, gwaith a gyhoeddywd fel siart a chyfrol o fapau yn
1748
.
Yn dirfesurydd symudodd i
Geredigion
yn
1742
a chafodd y gwaith o ofalu am hawliau'r Goron yn ardaloedd y gweithfeydd
plwm
yn ardal
Pumlumon
yn
1744
. O
1746
hyd
1757
bu'n byw yng Ngalltfadog, ger
Capel Dewi
. Priododd ei ail wraig Ann Lloyd o Benbryn,
Goginan
, yn
1749
. Bu farw ym Mhenbryn, yn
1765
.
Ymddiddorai Lewis Morris yn fawr yn
llenyddiaeth Gymraeg
y gorffennol. Fel y Morysiaid eraill, gwelai ddiffyg amlwg yn safonau llenyddol ei ddydd a cheisiai newid hynny trwy ymledu gwybodaeth am fawrion y gorffennol fel
Dafydd ap Gwilym
. Roedd yn gweld yr angen yn ogystal am lenyddiaeth gyfoes ddifyr o safon dda gan fod cynifer o bobl yn troi at lenyddiaeth Saesneg am hynny, ac yn
1735
cyhoeddodd
Tlysau yr Hen Oesoedd
i'r perwyl hwnnw. Ysgrifennodd nifer fawr o gerddi hwylus, llythyrau a darnau rhyddiaith dychanol yn null llenyddiaeth
fwrlesg
a ffansiol y ganrif. Cyhoeddwyd rhai ohonynt yn y gyfrol
Diddanwch Teuluaidd
yn
1763
(sy'n cynnwys hefyd cerddi gan Goronwy Owen ac eraill o Gylch y Morrisiaid). Ond arosodd swmp ei waith llenyddol a hynafiaethol heb ei gyhoeddi yn ei oes, yn cynnwys cyfrol ar hynafiaethau Mon (
Celtic Remains
), geiriadur, llythyrau llenyddol a cherddi.
- Tlysau yr Hen Oesoedd
(1735)
- Nifer o'r cerddi yn y gyfrol
Diddanwch Teuluaidd
(1763)
- Celtic Remains
, gol. Daniel Sylvan Evans (1878)
- Nifer o'r llythyrau yn y cyfrolau
The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris
(dwy gyfrol, 1907, 1909) a
Additional Letters of the Morrises of Anglesey
(dwy gyfrol, 1947, 1949), gol. gan J. H. Davies