Ynys
Roeg
yn y
Mor Aegeaidd
yw
Lesbos
(
Groeg
ddiweddar:
Lesvos
). Un o'r
Ynysoedd Gogledd Aegeaidd
, mae'n gorwedd yn agos iawn i dir mawr
Twrci
. Ei chanolfan yw dinas
Mitilene
(weithiau gelwir yr ynys ei hun 'Mitilini' nei 'Mitilene', ar ol ei brif ddinas). Tyfir yr
olewydden
a chnydau grawn yno. Mae pysgota
sardins
yn bwysig hefyd ond y prif ddiwydiant heddiw yw
twristiaeth
. Ar ol
Crete
ac
Euboea
Lesbos yw'r fwyaf o'r ynysoedd Aegaeaidd.
Ceir olion presenoldeb pobl o'r oes
Neolithig
ar Lesbos. Ymsefydlodd y Groegiaid ar yr ynys tua 1000 CC. Blodeuodd diwylliant Groeg yno ac fe'i cysylltir yn arbennig a barddoniaeth Roeg
delynegol
a gwaith
Sappho
ac
Alcaeus
. Roedd yr ynys yn rhan o
Aeolis
ac yn aelod o
Gynhgrair Delos
yng
Ngroeg yr Henfyd
. Yn ddiweddarach daeth i feddiant y
Rhufeiniaid
a gwnaethpwyd Mitilene yn borthladd rhydd ganddynt.
Codwyd nifer o eglwysi hardd yno ar ddechrau'r cyfnod
Bysantaidd
. Roedd yn arfer alltudio pobl i Lesbos, e.e. yr
ymerodres Irene
yn
809
. Yn ystod y canrifoedd nesaf newidiai ddwylo yn aml rhwng y Bysantiaid, y
Croesgadwyr
, y
Saraseniaid
a'r
Tyrciaid
. Syrthiodd i'r
Otomaniaid
yn
1462
. Brodor o'r ynys oedd y
mor leidr
Khair-ed-din Barbarossa
. Daeth yn rhan o Wlad Groeg yn
1912
.