Roedd
Leonard Warren
(
21 Ebrill
1911
-
4 Mawrth
1960
) yn ganwr
opera
Americanaidd. Roedd yn ganwr bariton ac yn un o artistiaid blaenaf y
Metropolitan Opera
yn
Ninas Efrog Newydd
am sawl flwyddyn.
[1]
Ganwyd Leonard Warenoff (enw gwreiddiol y teulu) yn y
Bronx
i rieni o fewnfudwyr
Iddewig
o
Rwsia
. Cafodd Warren ei gyflogi gyntaf ym musnes ffwr ei dad. Ym 1935, ymunodd a'r corws yn
Radio City Music Hall
. Ym 1938, aeth i mewn i Glyweliadau'r Awyr Opera Metropolitan. Er gwaetha'r ffaith ei bod yn amlwg bod Warren yn ddechreuwr, roedd ei ddoniau naturiol yn amlwg, a rhoddwyd contract iddo ar unwaith. Anfonodd y Met ef i'r
Eidal
yr haf hwnnw gyda grant astudio.
[2]
Wedi dychwelyd i'r
Unol Daleithiau
, gwnaeth Warren ei gyngerdd cyntaf yn y Metropolitan Opera yn canu darnau o
La traviata
a
Pagliacci
yn ystod cyngerdd yn Ninas Efrog Newydd ym mis Tachwedd 1938. Digwyddodd ei debut operatig ffurfiol yno ym mis Ionawr 1939, pan ganodd Paolo yn Simon Boccanegra. Dilynodd contract recordio gyda RCA Victor yn fuan.
[3]
Wedi hynny, canodd Warren yn
San Francisco
,
Chicago
,
Dinas Mecsico
a
Buenos Aires
, ac ymddangosodd yn
La Scala
ym
Milan
ym 1953. Ym 1958, aeth ar daith hynod lwyddiannus o gwmpas yr
Undeb Sofietaidd
, ond am y rhan fwyaf o'i yrfa, arhosodd yn Ninas Efrog gan ganu yn y Met. Ym 1950, cafodd droedigaeth i
Gatholigiaeth Rufeinig
, ffydd ei wraig Agatha, a daeth yn hynod o bybyr.
Er iddo ganu Tonio yn
Pagliacci
, Escamillo yn
Carmen
,
a Scarpia yn
Tosca
cafodd glod arbennig fel un o ddehonglwyr gorau rolau mawr i'r bariton gan Verdi, yn anad dim y rol teitl yn
Rigoletto,
a recordiwyd ym 1950 ar RCA Victor. Eraill ar y record oedd y soprano Erna Berger a'r tenor Jan Peerce. Yr arweinydd oedd Renato Cellini. Hwn oedd y recordiad operatig cyflawn cyntaf i'w ryddhau ar LP. Canodd y rol hefyd mewn cyngerdd budd i'r Groes Goch yn Madison Square Garden ym 1944.Dim ond act olaf yr opera a ymddangoswyd ar record. Canodd Jan Peerce y Dug unwaith eto, ond y tro hwn roedd
Zinka Milanov
yn Gilda, ac
Arturo Toscanini
oedd arweinydd Cerddorfa Symffoni NBC.
Mae ei recordiadau opera cyflawn eraill yn cynnwys
- La traviata
gyda
Rosanna Carteri,
Cesare Valletti, a'r arweinydd Pierre Monteux;
- Tosca
,
Aida
, ac
Il trovatore
', y cyfan gyda Zinka Milanov a Jussi Bjorling;
- La Forza del destino
gyda Milanov,
Giuseppe Di Stefano
,
Rosalind Elias
a
Giorgio Tozzi
;
- Ail recordiad o
Il trovatore
gyda'i gyfaill a'i gyd-seren tenor olaf,
Richard Tucker
, yn cynnwys
Leontyne Price
ifanc yn ei rol gyntaf yn y Met fel Leonora;
- Macbeth
Verdi, gyda
Leonie Rysanek
a
Carlo Bergonzi
Cymerodd Warren ran mewn carreg filltir deledu hanesyddol ym 1948, pan ganodd yn y telecast byw cyntaf o'r Opera Metropolitan. Darlledwyd Otello Giuseppe Verdi gan ABC-TV ar 29 Tachwedd 1948, noson agoriadol y tymor. Roedd Ramon Vinay yn Otello,
Licia Albanese
yn Desdemona, a chanodd Warren rol Iago.
Ym 1958, teithiodd Warren yn yr Undeb Sofietaidd.
[4]
Roedd yn un o'r ychydig artistiaid Americanaidd a wahoddwyd i wneud hynny a chafodd lwyddiant mawr mewn cyngherddau yn Leningrad a Kiev. Cafodd y cyngherddau eu recordio a rhyddhawyd dyfyniadau gan RCA Victor ar yr albwm
Leonard Warren: On Tour in Russia
, sydd ar gael ar LP a CD.
Perfformiad cyflawn olaf Warren oedd rol y teitl yn
Simon Boccanegra
ar 1 Mawrth, 1960 yn y Met. Dri diwrnod yn ddiweddarach, ar 4 Mawrth, yn ystod perfformiad o
La forza del destino
gyda
Renata Tebaldi
fel Leonora a
Thomas Schippers
yn arwain, cwympodd Warren yn sydyn a bu farw ar y llwyfan. Roedd Warren yn bedwar deg wyth oed. Effeithiodd ei farwolaeth ar amserlen y Met am nifer o flynyddoedd wedyn; roedd wedi cael ei gastio yn rol y teitl ar gyfer perfformiad cyntaf y Met o
Nabucco
, Verdi yn ystod tymor 1960-61.
[5]
Mae Leonard Warren wedi ei gladdu ym Mynwent y Santes Fair yn Greenwich,
Connecticut
.
[6]