Mae
La Scala
, yr enw byr
Eidaleg
ar gyfer
Teatro alla Scala
, yn D? Opera ym
Milan
,
yr Eidal
. Cafodd y theatr ei agor ar gyfer perfformiadau ar
3 Awst
1778
. Ei enw gwreiddiol oedd y
Nuovo Regio Ducale Teatro alla Scala
(Theatr Newydd Brenhinol a Dugaidd alla Scala). Y perfformiad cyntaf oedd perfformiad o
opera
Antonio Salieri
Europa riconosciuta
.
[1]
Mae'r rhan fwyaf o artistiaid operatig mwyaf yr Eidal a llawer o gantorion gorau o bob cwr o'r byd, wedi ymddangos yn La Scala. Mae'r theatr yn cael ei ystyried fel un o brif theatrau opera a
bale
yn y byd. Mae'n gartref i Gorws Theatr La Scala, Bale Theatr La Scala a Cherddorfa Theatr La Scala. Mae'r gan y theatr hefyd ysgol,
Accademia Teatro alla Scala
, (Academi Theatr La Scala). Mae'r ysgol yn cynnig hyfforddiant proffesiynol mewn
cerddoriaeth
,
dawnsio
,
crefft llwyfan
a rheoli llwyfan.