Urdd uchaf Ffrainc yw'r Legion d'honneur neu yn Gymraeg Lleng Anrhydedd [1] (yn llawn: Ordre National de la Legion d’honneur , Ffrangeg am Urdd Genedlaethol y Lleng Anrhydedd). Sefydlwyd gan Napoleon Bonaparte ar 19 Mai 1802 fel anrhydedd sifil a milwrol. [2] Mae'n debyg taw hon oedd yr urdd teilyngdod gyntaf i wobrwyo dinasyddion o bob haen cymdeithas ac nid anrhydedd i foneddigion yn unig.