Kwame Nkrumah
|
---|
|
Ganwyd
| 21 Medi 1909
Nkroful
|
---|
Bu farw
| 27 Ebrill 1972
o canser y croen,
canser y brostad
Bwcarest
|
---|
Dinasyddiaeth
| Gold Coast Colony,
Ghana
|
---|
Alma mater
| - Prifysgol Lincoln
- Ysgol Economeg Llundain
- University of Pennsylvania Graduate School of Education
- Achimota School
- Prifysgol Lincoln
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
,
ysgrifennwr
, diplomydd,
darlithydd
|
---|
Swydd
| Arlywydd Ghana, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, Prif Weinidog Ghana, Minister for Foreign Affairs, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Member of the Parliament of Ghana, Minister for the Interior of Ghana, Member of the 1st Parliament of the Gold Coast, Member of the 2nd Parliament of the Gold Coast, Member of the 1st Parliament of the 1st Republic of Ghana, Minister for Defence, President of Guinea
|
---|
Adnabyddus am
| Africa Must Unite
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Convention People's Party, United Gold Coast Convention
|
---|
Plant
| Gamal Nkrumah, Samia Nkrumah, Sekou Nkrumah
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr Heddwch Lennin, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Coler Urdd y Llew Gwyn, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta
|
---|
Kwame Nkrumah
(
21 Medi
1909
?
27 Ebrill
1972
) oedd Arlywydd cyntaf
Ghana
. Ystyrir ef yn un o'r ffigyrau pwysicaf yn natblygiad
Cenedlaetholdeb Affricanaidd
.
Ganed ef, fel Francis Nwia Kofi Ngonloma, yn
Nkroful
, yn yr hyn oedd bryd hynny yn
drefedigaeth Brydeinig
y
Gold Coast
. Graddiodd o Ysgol Achimota yn
Accra
yn 1930, a bu'n dysgu mewn ysgol Gatholig yn
Axim
. Yn 1935 teithiodd i'r
Unol Daleithiau
i astudio, gan raddio ym Mhrifysgol Lincoln,
Pennsylvania
. Bu'n bregethwr cynorthwyol mewn eglwysi duon yno, a chyfarfu a'r Marcsydd o
Trinidad
,
C.L.R. James
, a gafodd gryn ddylanwad arno. Bu wedyn yn
Llundain
am gyfnod.
Yn
1947
gwahoddwyd ef i wasanaethu fel ysgrifennydd i gomisiwn dan
Joseph B. Danquah
oedd yn edrych i mewn i'r posibilrwydd o annibyniaeth y
Gold Coast
. Dychwelodd i'r wlad yn Rhagfyr y flwyddyn honno. Yn
1948
carcharwyd ef gan yr awdurdodau Prydeinig. Wedi ei ryddhau, bu'n bodio ei ffordd o amgylch y wlad yn ymgyrchu dros hunanlywodraeth. Carcharwyd ef eto yn
1950
, am dair blynedd y tro hwn. Dan bwysau rhyngwladol, cytunodd Prydain i gynnal etholiad yn Chwefror
1951
, ac enillodd plaid Nkrumah, oedd yn dal yng ngharchar, fuddugoliaeth ysgubol. Rhyddhawyd ef, a gofynnwyd iddo ffurfio llywodraeth. Flwyddyn yn ddiweddarach, enwyd ef yn Brif Weinidog. Ar
6 Mawrth
,
1957
, cyhoeddodd Nkrumah fod Ghana yn wlad annibynnol. Yn 1960 daeth Ghana yn weriniaeth, a Nkrumah yn Arlywydd. Daeth Nkrumah yn amlwg fel hyrwyddwr
Pan-Affricaniaeth
a'r
Mudiad Amhleidiol
.
Y mis Chwefror
1966
, pan oedd Nkrumah ar ymweliad a
Fietnam
, cipiwyd grym gan y fyddin, gyda chefnogaeth y
CIA
. Bu'n byw mewn alltudiaeth yn
Conakry
,
Gini
, lle gwnaeth yr arlywydd
Ahmed Sekou Toure
ef yn gyd-arlywydd er anrhydedd. Bu farw o gancr y croen yn Ebrill
1972
. Dychwelwyd ei gorff i Ghana a'i gladdu yn
Nkroful
. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd ei weddillion i
Accra
.
- Birmingham, David.
Kwame Nkrumah: The Father of African Nationalism
(Athens: Ohio University Press), 1998.