Mae Keely Nicole Hodgkinson (ganwyd 3 Mawrth 2002 ) [1] [2] yn athletwr o Wigan sy'n arbenigo yn yr 800 metr. Enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Dan Do Ewrop 2021 yn 19 oed, fel y Prydeiniwr ieuengaf i ennill aur Dan Do Ewropeaidd. [3] [4] Roedd Hodgkinson yn bencampwr dan-18 Ewrop yn 2018, ac yn enillydd medal efydd dan-20 yn 2019. Enillodd fedal arian yn yr 800 metr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 . [5]
Enillodd Hodgkinson medal arian ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd 2022 yn Eugene, Oregon , UDA. [6]