Kangchenjunga
(
Nepaleg
:??????????) yw'r trydydd mynydd yn y byd o ran uchder (yn dilyn
Mynydd Everest
a
K2
). Kangchenjunga yw'r mynydd uchaf yn
India
a'r ail-uchaf yn
Nepal
. Ystyr yr enw Kangchenjunga yw "Pum trysor yr eira", gan fod pum copa i'r mynydd.
Hyd at 1852, credid mai Kangchenjunga oedd y mynydd uchaf yn y byd, ond y flwyddyn honno profwyd fod Everest a K2 yn uwch. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf gan y mynyddwyr Prydeinig
George Band
a
Joe Brown
ar
25 Mai
,
1955
. O barch i gredoau lleol, arosasant ychydig droedfeddi'n fyr o'r copa ei hun, traddodiad sydd wedi ei barchu gan ddringwyr diweddarach gan mwyaf.
Gellir cael golygfa wych o'r mynydd o
Darjeeling
ar ddiwrnod clir.