Trydydd Prif Weinidog ar hugain
Canada
ac arweinydd
Plaid Ryddfrydol Canada
yw
Justin Pierre James Trudeau
(ganwyd
25 Rhagfyr
1971
). Ef yw mab hynaf y cyn-Brif Weinidog
Pierre Trudeau
a'r ail Brif Weinidog ieuengaf erioed yng Nghanada (wedi Joe Clark).
[1]
[2]
Fe'i ganed yn
Ottawa
. Derbyniodd radd BAdd ym Mhrifysgol British Columbia yn 1998. Daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf yn Hydref 2000 pan ddarllenodd deyrnged i'w dad yn ei angladd.