한국   대만   중국   일본 
Julien Macdonald - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Julien Macdonald

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Julien MacDonald )
Julien Macdonald
Ganwyd 19 Mawrth 1971  Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful   Edit this on Wikidata
Man preswyl Llundain   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru  Cymru
Alma mater
Galwedigaeth dylunydd ffasiwn  Edit this on Wikidata
Gwobr/au OBE  Edit this on Wikidata

Dylunydd ffasiwn o Gymro yw Julien Macdonald OBE (ganwyd 19 Mawrth 1971 ym Merthyr Tudful ).

Bywgraffiad [ golygu | golygu cod ]

Ganwyd Macdonald ym Merthyr Tudful a mynychodd Ysgol Cyfarthfa. Dysgodd ei fam ef sut i weu a chododd ei ddiddordeb mewn dylunio yn fuan wedyn. Roedd diddordeb ganddo mewn gyrfa fel dawnsiwr, ond astudiodd MA tecstiliau yng Ngholeg Brenhinol Arlunio , Brighton , yn lle hynny. Yn fuan ar ol graddio, cafodd ei recriwtio i weithio gyda Karl Lagerfeld ar gyfer Chanel. Gweithiodd yn llawrydd hefyd yn creu gwisg wedi ei gweu ar gyfer Alexander McQueen ac Owen Gaster .

Yn 2000, apwyntiwyd ef yn olynydd i Alexander McQueen fel prif ddylunydd T? Haute Couture Paris, Givenchy , ac yn 2001 enwebwyd ef yn Ddylunydd Ffasiwn Prydeinig y Flwyddyn. Caiff ei greadigaethau eu gwisgo gan ser megis Joely Richardson , Kylie Minogue , Geri Halliwell , Shirley Bassey , Carmen Electra a Naomi Campbell . Dewiswyd ef gan British Airways i ail-ddylunio gwisg eu cynorthwywyr hedfan. Mae'n feirniad ar y fersiwn Brydeinig o'r gyfres deledu Project Runway , sef Project Catwalk , a ddarlledir ar Sky One . Yn Mehefin 2006 , gwobrwywyd ef a OBE yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i'r diwydiant ffasiwn.

Yng Ngorffennaf 2023, aeth ei gwmni ffasiwn i'r wal. [1] Yn 2020 collodd y cwmni incwm sylweddol yn dilyn cwymp y siop adrannol Debenhams. Gwaethygodd y sefyllfa yn ystod pandemig COVID pan gollodd y cwmni sawl contract pwysig yn ogystal a costau ychwanegol oherwydd chwyddiant.

Ei ymddygiad dadleuol [ golygu | golygu cod ]

Mae Julien Macdonald wedi denu beirniadaeth hallt am ei ddefnydd helaeth o ffwr anifeiliaid, a thaflwyd blawd ato yng ngwesty'r Hilton ym Mharis un tro. [2] Dywedodd mewn datganiad, mai ffwr oedd yn ennill y rhan fwyaf o'i arian ac y buasai ei label yn methu pe na bai'n ddefnyddio ffwr. [2] Yn Chwefror 2007 , cafodd ei feirniadu eto am ddefnyddio ffwr yn ei gasgliad Hydref. Achosodd wylltio pellach wrth ddweud "People who don't like fur can p*ss off. I love fur. It's a beautiful natural product from animals." [3] Caiff yr hetiau couture eu creu gan Prudence Millinery.

Bywyd personol [ golygu | golygu cod ]

Mae Macdonald yn blentyn i Glyn a Joan ac mae ganddo chwiorydd Lesley and Beverley. Bu farw ei dad Glyn yn 81 oed yn Chwefror 2016; trefnwyd wasanaeth iddo ar 1 Mawrth yn Eglwys St Illtyd. [4]

Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "Julien Macdonald: Welsh fashion designer's firm goes into liquidation" . BBC News (yn Saesneg). 2023-08-04 . Cyrchwyd 2023-08-04 .
  2. 2.0 2.1 "Julien Macdonald: Defender of the fur" . The Independent. 19 February 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-24 . Cyrchwyd 2007-08-02 .
  3. The Daily Mail (14th February 2007). "The anti-fur mob? They can p*** off" . Check date values in: |date= ( help )
  4. Owens, David. Julien Macdonald pays emotional tribute after the death of his father Glyn (en) , WalesOnline, 10 Mawrth 2016.

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]