Jonathan Ross
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4a/Jonathan_Ross_by_Gage_Skidmore_2.jpg/220px-Jonathan_Ross_by_Gage_Skidmore_2.jpg) |
Ganwyd
| Jonathan Stephen Ross
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) 17 Tachwedd 1960
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) St Pancras
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
| y Deyrnas Unedig
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Alma mater
| - Prifysgol Solent Southampton
- Coleg Prifysgol Llundain
- UCL School of Slavonic and East European Studies
- Norlington School for Boys
- Leyton Sixth Form College
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png)
|
---|
Galwedigaeth
| cyflwynydd teledu, newyddiadurwr, cyflwynydd radio, actor ffilm,
sgriptiwr
, beirniad ffilm, actor teledu, cynhyrchydd teledu
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Mam
| Martha Ross
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Priod
| Jane Goldman
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| OBE
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Cyflwynydd teledu a radio
Seisnig
yw
Jonathan Stephen Ross
OBE
(ganed
17 Tachwedd
1960
yn
Llundain
), neu "Wossy", sydd wedi ennill gwobrau
BAFTA
. Daeth i amlygrwydd gyntaf yn yr 1980au gyda'i sioe siarad
The Last Resort with Jonathan Ross
ar
Channel 4
. Aeth ymlaen i wneud sawl rhaglen i'r
BBC
gan gyflwyno
The Film Programme
rhwng 1999 a 2010, sioe siarad wythnosol
Friday Night with Jonathan Ross
rhwng 2001 a 2010, a sioe radio ar BBC Radio 2 rhwng 1999 a 2010. Gadawodd y BBC yn 2010 a cychwynnodd ei sioe siarad newydd ar
ITV
yn Medi 2011.
The Russell Brand Show ac Andrew Sachs
[
golygu
|
golygu cod
]
Gwaharddwyd Ross o'i waith ar y
18fed o Hydref
,
2008
wedi iddo ymddangos ar sioe y digrifwr
Russell Brand
. Tra ar
The Russell Brand Show
, gwnaeth Ross a Brand gyfres o alwadau ffon i'r actor 78 mlwydd oed
Andrew Sachs
, gan adael negeseuon ar ei beiriant ateb. Prin oedd y diddordeb i ddechrau, ond cafwyd erthyglau papur newydd am y nifer uchel o gwynion a wnaed. Ymddiswyddodd Brand o'r
BBC
a gwaharddwyd Ross o'i swydd yn ddi-dal am 12 wythnos gan ddechrau ar y
29ain o Hydref
. Dywedodd Uwch-Gyfarwyddwr y BBC,
Mark Thompson
y dylai Ross ystyried y camau disgyblu hyn fel ei gyfle olaf.
Ar yr 21ain o Dachwedd 2008, dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC fod y galwadau ffon yn "deplorable intrusion with no editorial justification"
[1]
Cefnogodd yr ymddiriedolaeth gwaharddiad 12 wythnos Ross ond argymhellwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn. Dychwelodd Ross i'w waith yn Ionawr 2009 a darlledwyd y rhaglen gyntaf o
Friday Night With Jonathan Ross
ar y 23ain o Ionawr 2009. Y gwestai oedd
Tom Cruise
,
Stephen Fry
a
Lee Evans
, a chafwyd cerddoriaeth gan y band
Franz Ferdinand
.