Athro Cymraeg yng ngholeg
Llanbedr Pont Steffan
ac
Esgob Tyddewi
oedd
John Owen
(
24 Awst
1854
?
4 Tachwedd
1926
).
Ganed ef yn Ysgubor Wen,
Sir Gaernarfon
(
Gwynedd
). Roedd ei rieni yn
Fethodistiaid Calfinaidd
. Yn
1872
, enillodd Owen ysgoloriaeth i
Goleg yr Iesu
,
Rhydychen
, i astudio'r clasuron a mathemateg. Daeth yn athro yn ysgol ramadeg
Botwnnog
, a thra yno, datblygodd ddiddordeb yn yr Eglwys Anglicanaidd.
Apwyntiwyd ef yn Athro Cymraeg yn Llanbedr yn
1879
, ac ordeiniwyd ef yn ddiacon yr un flwyddyn, yna'n offeiriad yn
1880
. Yn
1889
, daeth yn ddeon
Llanelwy
, dan yr Esgob
Alfred Edwards
. Dychwelodd i Lanbedr fel Prifathro yn
1892
, a bu'n brwydro'n hir i geisio cael Llanbedr i fod yn rhan o Brifysgol Cymru. Ni lwyddodd yn hyn, ac ni ddaeth Llanbedr yn rhan o'r Brifysgol hyd
1971
.
Yn
1897
, apwyntiwyd ef yn Esgob Tyddewi i olynu
William Basil Jones
. Bu ganddo ran amlwg yn y dadleuon a arweiniodd at ddatgysylltu'r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a ffurfio yr Eglwys yng Nghymru. Bu farw yn
1926
, a chladdwyd ef yn
Abergwili
.