한국   대만   중국   일본 
John Knox - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

John Knox

Oddi ar Wicipedia
John Knox
Ganwyd c. 1514  Edit this on Wikidata
Haddington   Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Tachwedd 1572  Edit this on Wikidata
Caeredin   Edit this on Wikidata
Man preswyl St Giles' Cathedral, St Andrews  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas yr Alban   Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth diwinydd, gweinidog yr Efengyl , ysgrifennwr , gwleidydd   Edit this on Wikidata
Swydd Moderator of the General Assembly of the Church of Scotland, Moderator of the General Assembly of the Church of Scotland  Edit this on Wikidata
Priod Margaret Knox, Margery Bowes  Edit this on Wikidata
Plant Elizabeth Knox  Edit this on Wikidata

Un o brif arweinwyr y Diwygiad Protestannaidd yn yr Alban oedd John Knox ( 1505 , 1513 neu 1514 ? 24 Tachwedd 1572 ). Ail-drefnodd eglwys yr Alban i fod yn eglwys Bresbyteraidd .

Nid oes sicrwydd am ddyddiad na man ei eni, ond y mwyaf tebygol yw iddo gael ei eni yn Giffordgate , ger Haddington yn 1513 neu 1514 . Astudiodd ym Mhrifysgol Glasgow neu Brifysgol St. Andrews. Roedd wedi ei ordeinio yn offeiriad cyn 1540 .

Tua diwedd 1545 cyhoeddodd ei erthygl gyntaf ynghylch Protestaniaeth , efallai dan ddylanwad George Wishart . Alltudiwyd ef i Loegr yn 1549 , yna pan ddaeth Mari Tudur yn frenhines yno a cheisio dychwelyd y wlad at Gatholigiaeth , symudodd i Genefa , lle bu'n astudio dan Jean Calvin . Yn ddiweddarach, symudodd i Frankfurt .

Wedi dychwelyd i'r Alban, daeth yn un o arweinwyr y Diwygiad Protestannaidd yno.