Clerigwr Cymreig a fu'n
Esgob Bangor
o
1949
hyd ei farwolaeth oedd
John Charles Jones
(
3 Mai
1904
-
13 Hydref
1956
). Ganed ef yn
Llansaint
,
Sir Gaerfyrddin
. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin,
Prifysgol Caerdydd
a
Choleg Wadham, Rhydychen
.
Treuliodd flwyddyn yn
Neuadd Wycliffe, Rhydychen
, cyn cael ei ordeinio'n offeiriad yn
1930
. Bu'n giwrad yn
Llanelli
hyd
1933
yna yn
Aberystwyth
gyda chyfrifoldeb dros y myfyrwyr. Aeth yn genhadwr yn 1934, gan weithio yn y
Bishop Tucker Memorial College
, Mukono,
Wganda
.
Dychwelodd i Gymru yn
1945
fel ficer Llanelli, a chysegrwyd ef yn Esgob Bangor yn 1949, y tro cyntaf i'r seremoni hon gael ei chynnal yn Gymraeg.