John Brooks, Barwn Brooks o Dremorfa

Oddi ar Wicipedia
John Brooks, Barwn Brooks o Dremorfa
Ganwyd 12 Ebrill 1927  Edit this on Wikidata
Caerdydd   Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Mawrth 2016  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru  Cymru
Galwedigaeth gwleidydd   Edit this on Wikidata
Swydd aelod o D?'r Arglwyddi  Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol y Blaid Lafur   Edit this on Wikidata
Tad Edward George Brooks  Edit this on Wikidata
Mam Rachel White  Edit this on Wikidata
Priod Margaret Pringle  Edit this on Wikidata

Gwleidydd a gweinyddwr bocsio Cymreig oedd John Edward "Jack" Brooks, Baron Brooks o Dremorfa DL ( 12 Ebrill 1927 ? 4 Mawrth 2016 ). [1]

Bywyd cynnar [ golygu | golygu cod ]

Ganwyd Brooks yng Nghaerdydd yn 1927, yn fab i Edward George Brooks a Rachel White, a fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Harlech . [2]

Gyrfa [ golygu | golygu cod ]

Rhwng 1966 a 1984, roedd Brooks yn Ysgrifennydd Y Blaid Lafur i etholaeth De-ddwyrain Caerdydd . Yn etholiad cyffredinol Chwefror 1974 a Hydref 1974 , ymgeisiodd dros Lafur yn etholaeth Y Barri . Bu'n asiant i'r cyn prif-weinidog Jim Callaghan a gynrychiolodd sawl etholaeth yng Nghaerdydd.

Etholwyd Brooks fel cynghorydd yn ward Splott yng Nghaerdydd. [3] Daeth yn arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg (CSDM), ac roedd yn adnabyddus am ei "arweinyddiaeth gadarn" a'i reolaeth effeithiol o gr?p y Blaid Lafur yn yr 1980au [4] Daeth Brooks i'w weld fel dylanwad mawr ar Russell Goodway a fyddai'n dod yn arweinydd y Cyngor Sir a Chyngor Chaerdydd yn ddiweddarach. [4]

Ar 17 Gorffennaf 1979, daeth yn Arglwydd am oes, fel Barwn Brooks o Dremorfa , o Dremorfa yn Sir Forgannwg . [5] Cafodd anrhydedd pellach gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd yn Athrofa Prifysgol Cymru (UWIC). Fel Dirprwy Gadeirydd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (a chynrychiolydd y Cyngor), roedd yn allweddol yn ail-ddatblygu ardal y Dociau yng Nghaerdydd a adnabyddir heddiw fel Bae Caerdydd . [3]

Roedd Brooks yn Is-gadeirydd Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain rhwng 1999 a 2000 a daeth yn llywydd y bwrdd yn 2004. Yn 2001 enillodd y cyn-focsiwr Michael Watson achos o esgeulustod yn erbyn y Bwrdd, roedd yn rhaid iddynt dalu £400,000 o iawndal ac roedd yn rhaid gwerthu ei phencadlys yn Llundain. I osgoi methdaliad roedd yn rhaid i'r bwrdd arbed arian ac roedd Brooks yn allweddol i'r cynnig i symud pencadlys y bwrdd i swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd. [6] Roedd Brooks yn gyn-gadeirydd Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru o 1988, a Sportsmatch Cymru ers 1992. [7] Yn 1994, fe'i gwnaed yn Ddirprwy Raglaw dros Dde Morgannwg . [8]

Bywyd personol [ golygu | golygu cod ]

Priododd Brooks gyntaf yn 1948 ond fe ysgarodd yn 1956. Yn 1958, priododd Margaret Pringle. Roedd ganddo fab a merch o'r briodas gyntaf a dau fab gyda Margaret. [2] Bu farw ar 4 Mawrth 2016 yn 88 mlwydd oed. [8]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Baroness D'Souza, The Lord Speaker (8 March 2016). "Today's House of Lords debates - Tuesday 08 March 2016" . Parliamentary Debates (Hansard) . United Kingdom: House of Lords. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08 . Cyrchwyd 2016-03-08 . CS1 maint: multiple names: authors list ( link )
  2. 2.0 2.1 Brooks, John Edward .
  3. 3.0 3.1 "Jack Brooks" , South Wales Echo , 25 February 2005.
  4. 4.0 4.1 Hooper, Alan; Punter, John (2006). Capital Cardiff 1975-2020: Regeneration, Competitiveness and the Urban Environment . University of Wales Press. t. 37. ISBN   0-7083-2063-5 .
  5. London Gazette : no. 47908. p. 9066 . 19 July 1979.
  6. "Board switches base to Cardiff" . BBC Sport . 2001-12-20.
  7. Frank Warren (4 March 2016). "Boxing will miss Jack Brooks, a true champion of the Noble Art" . Cyrchwyd 7 March 2016 .
  8. 8.0 8.1 Shipton, Martin (4 March 2016). "Lord Jack Brooks, who laid the foundations for Cardiff's transformation, has died aged 88" . WalesOnline . Cyrchwyd 4 March 2016 .