Video
(cymraeg)
/
(english)
Gwleidydd Cymreig yw
Jillian "Jill" Evans
(ganed
8 Mai
1959
) sy'n
Aelod Senedd Ewrop
dros
Gymru
, ac sy'n aelod blaenllaw o
Blaid Cymru
. Mae hefyd yn gadeirydd
CND Cymru
.
Ganed hi yn
Ystrad Rhondda
yn y
Rhondda
a'i haddysgu yn
Nhonypandy
a
Phrifysgol Abertawe
. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ymchwil ym
Mholitecnic Cymru
lle enillodd radd M.Phil. Bu'n gweithio dros
Sefydliad y Merched
yng Nghymru am chwe blynedd cyn dod yn drefnydd gros Gymru i CHILD - Rhwydwaith Cefnogi Anffrwythlondeb Cenedlaethol.
Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o
1994
hyd
1996
, a daeth yn Aelod Seneddol Ewrop yn etholiad
1999
, gan ddod yn ASE cyntaf y Blaid gydag
Eurig Wyn
. Cafodd ei hethol yn Is-Lywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu
Dafydd Iwan
fel Llywydd y Blaid, cymerodd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.
[1]
Yn Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Jill Evans yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg
S4C
, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r
BBC
.
[2]
Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.
[3]
Comin Wikimedia