한국   대만   중국   일본 
Jamie Roberts - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Jamie Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jamie Roberts
Enw llawn Dr. Jamie Huw Roberts
Dyddiad geni ( 1986-11-08 ) 8 Tachwedd 1986 (37 oed)
Man geni Casnewydd , Cymru
Taldra 1.93 m
Pwysau 110 kg
Prifysgol Prifysgol Caerdydd
Gwaith Chwaraewr rygbi'r undeb, Meddyg

Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro yw Jamie Roberts (ganed 8 Tachwedd 1986 ). Roedd yn chwarae fel canolwr fel arfer, ond gall hefyd chwarae fel cefnwr ac asgellwr.

Ganed ef yng Nghasnewydd , ac addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf . Yn 2013, graddiodd Jamie Roberts mewn meddygaeth o Brifysgol Caerdydd [1] .

Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru fel asgellwr yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm ar 9 Chwefror 2008 . Yn ddiweddarach, symudwyd ef i chwarae fel canolwr, ac yn y safle yma dyfarnwyd ef yn chwaraewr gorau'r gem rhwng Cymru a'r Alban ar 8 Chwefror 2009 . Enillodd 94 o gapiau dros Gymru rhwng 2008 a 2017 a 3 dros Y Llewod ar eu teithiau yn 2009 a 2013.

O 2005 ymlaen, chwaraeodd Roberts dros Glwb Rygbi Caerdydd, Gleision Caerdydd , Racing Metro , Prifysgol Caergrawnt, Harlequins, Caerfaddon, y Stormers a'r Dreigiau a'r Waratahs yn Awstralia. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi proffesiynol yn Gorffennaf 2022. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1.   Cyfweliad arbennig gyda Jamie Roberts . BBC (29 Hydref 2013). Adalwyd ar 29 Awst 2015.
  2. Canolwr Cymru Jamie Roberts yn ymddeol o rygbi proffesiynol , BBC Cymru Fyw, 12 Gorffennaf 2022.