Roedd
James Price William Gwynne-Holford
(
25 Tachwedd
1833
?
6 Awst
1916
) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel
Aelod Seneddol
Ceidwadol
Aberhonddu
rhwng
1870
a
1880
[1]
Ganwyd Gwynne-Holford yn
Llansantffraed
, Aberhonddu yn fab i'r Cyrnol James Price Gwynne-Holford, Neuadd Buckland a’i wraig Anna Maria Eleanor merch, Roderick Gwynne, Glebran. Bu farw’r tad ym 1844
[2]
.
Priododd Eleanor Gordon-Canning ym 1891 yn eglwys St James, Hanover Square,
Llundain
[3]
. Bu iddynt un ferch.
Cafodd ei addysgu yng
Ngholeg Eton
a
Choleg Eglwys Crist, Rhydychen
.
Bu Gwynne-Holford yn gwasanaethu am gyfnod byr fel Cornet yng Nghatrawd y Gwaywyr. Wedi hynny bu’n cynorthwyo ei fam i redeg ystadau Buckland a’r Cilgwyn, Caerfyrddin. Etifeddodd yr ystadau ar farwolaeth ei fam ym 1888.
[4]
Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar feinciau
Sir Gaerfyrddin
a
Sir Frycheiniog
. Gwasanaethodd fel
Uchel Siryf Frycheiniog
ym 1857.
Ym 1870 dyrchafwyd Edward, yr Arglwydd Hyde, AS
Rhyddfrydol
Aberhonddu i D?’r Arglwyddi. Safodd Gwynne-Holford yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo gan gipio’r sedd i’r Ceidwadwyr. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1874 ond fe’i collodd i’r Rhyddfrydwr
Cyril Flower
yn etholiad cyffredinol 1880
[5]
..
Rhwng 1888 a 1896 gwasanaethodd fel cynghorydd ar Gyngor Sir Frycheiniog.
Bu farw yng
Nghrucywel
yn 83 Mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys St Ffraid, Llansantffraed
[6]
.