James Abernethy
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/9/9b/JamesAbernethy.jpg) |
Ganwyd
| 12 Mehefin 1814
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Aberdeen
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu farw
| 8 Mawrth 1896
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Broadstairs
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
|
Yr Alban
|
---|
Galwedigaeth
| peiriannydd sifil,
peiriannydd
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Roedd
James Abernethy
FRSE (
12 Mehefin
1814
-
8 Mawrth
1896
) yn beiriannydd sifil o'r
Alban
Ganed Abernethy yn
Aberdeen
i George Abernethy, peiriannydd, ac Isabella (nee Johnston) cafodd ei dad ei benodi yn rheolwr
Gwaith Haearn Dowlais
, ac ym 1826 symudodd i
Southwark
, Llundain, wedi i'r tad derbyn swydd fel rheolwr ffowndri. Tra yno, gwyliodd y gwaith o adeiladu
Pont Llundain
. Ym 1827, anfonwyd ef gyda'i frodyr i Ysgol Breswyl
Cotherstone
yn
Riding Gogledd Swydd Efrog
, ond cafodd ei symud gan ei ewythr, y Parch. John Abernethy, ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan ddarganfu bod amodau'r ysgol yn ofnadwy. Aeth ei ewythr ag ef i Lundain ac yna i
Haddington
,
Dwyrain Lothian
lle treuliodd ddwy flynedd yn yr Ysgol Ramadeg lleol. Yna aeth i weithio o dan ei dad, a oedd yn gweithio ar adeiladu Doc y Dwyrain, a oedd yn rhan o Ddociau Llundain.
[1]
Ym 1832 symudodd gyda'i dad o
Herne Bay
, lle'r oedd pier pren yn cael ei adeiladu. Fodd bynnag, hwyliodd i
Sweden
ym 1833, i osod ffordd newydd ar gyfer mwynglawdd manganis ger
Jonkoping
| roedd ffrind wedi'i brynu. Treuliodd lawer o'i amser hamdden yn braslunio pensaerniaeth a golygfeydd yr ardal. Cafodd ei alw'n ol i Loegr ym 1835 gan ei dad, i gynorthwyo ar brosiect goleudy Start Point yn
Nyfnaint
. Ymddengys mai dyma'r tro olaf iddo weithio gyda'i dad. Symudodd i
Goole
ym 1836, i weithio gyda George Leather ar adeiladu'r doc agerlong a'r clo a gysylltodd Camlas Aire a Calder a'r
Afon Humber
. Er gwaethaf iddo bron a boddi pan gwympodd cofferdam, fe neilltuodd y rhan fwyaf o weddill ei yrfa i beirianneg forol. Gweithiodd ar welliannau i'r Aire a Calder rhwng
Wakefield
a Methley tan 1838, ac yna daeth yn beiriannydd preswyl Rheilffordd Gogledd Canolbarth Lloegr, gan weithio o dan
George Stephenson
. Fodd bynnag, ymddiswyddodd ar ol 18 mis, i ddod yn beiriannydd Ymddiriedolaeth Harbwr
Aberdeen
.
[2]
James Abernethy
Roedd gan Aberdeen harbwr llanw ar yr adeg y cyrhaeddodd Abernethy, a threuliodd flwyddyn yn ysgeintio ac adeiladu argloddiau i wella'r sianel fynediad. Y flwyddyn ganlynol, cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer dylunio doc caeedig, a dewiswyd ei ddyluniad ef ar gyfer y gwaith. Cafwyd
Deddf Seneddol
i weithredu'r dyluniad, ond yn gyntaf bu'n rhaid i Abernethy argyhoeddi asesydd annibynnol yn Llundain o'i gadernid. Roedd y cyfarfod yn amhendant, ond roedd cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Harbwr yn fodlon, a gofynnwyd am dendrau i'w hadeiladu. Rhoddwyd y contract i'r cynigydd isaf, ond ni allai ei gwblhau, a chymerodd Abernethy yr awenau ar ol blwyddyn, gan ddefnyddio llafur uniongyrchol i orffen y gwaith. Pan gafodd ei adeiladu, y clo mynediad oedd y mwyaf ym Mhrydain, yn mesur 250 x 60 troedfedd (76 x 18 medr), gyda dyfnder mordwyol o 22 troedfedd (6.7 medr) ar lanw uchel.
[2]
Pasiwyd y Ddeddf Ymholiadau Rhagarweiniol i sicrhau bod cynlluniau newydd o bwys yn cael eu hasesu'n gymwys cyn eu gweithredu, a bu Abernethy yn gweithio fel un o'i Swyddogion Arolygu am wyth mlynedd hyd 1852. Yn ystod yr amser hwn cynhaliodd ymholiadau cyhoeddus i gynlluniau ar gyfer gwella
Afon Clud
,
Afon Tyne
ac
Afon Ribble
, ac ar gyfer adeiladu dociau yn
Belffast
,
Penbedw
,
Glasgow
,
Lerpwl
a
Newcastle upon Tyne
. Yn ogystal a chael sgiliau wrth gynnal cyfarfodydd o'r fath, cyfarfu a pheirianwyr blaenllaw'r cyfnod, a dysgodd yr arferion gorau ar gyfer peirianneg forol. Gweithredodd fel ymgynghorydd i Ymddiriedolwyr Harbwr Abertawe o 1847, a daeth yn Brif Beiriannydd iddynt ym 1849, ond parhaodd i fyw yn Aberdeen tan 1851, pan symudodd i
Benbedw
.
[2]
Cynhyrchodd gynlluniau ar gyfer Dociau Penbedw, gan nad oedd yn argyhoeddedig bod y cynlluniau cystadleuol, a gynhyrchwyd gan James Rendel, yn ymarferol. Aseswyd y ddau gynllun gan y Llyngesydd Syr Francis Beaufort a
Robert Stephenson
, a ganfu o blaid Rendel. Wedi i Gorfforaeth Lerpwl cyfrifoldeb am y cynllun ym 1855, gweithredwyd cynlluniau Rendel, ond methodd y llifddorau yn fuan ar ol i'r dociau gael eu cwblhau ym 1864. Awdurdododd Deddf Seneddol newydd a basiwyd ym 1866 ailadeiladu'r dociau i gynlluniau Abernethy. Trwy gydol y cyfnod hwn bu’n weithgar gyda chynlluniau eraill hefyd, gan gynnwys iard long ar gyfer Mri. Laird ar
Afon Merswy
. Cynhyrchodd gynlluniau ar gyfer gwella Camlas Bann yn yr Iwerddon ym 1851, ac ar gyfer Rheilffordd Fforest y Ddena, Mynwy, Caerwysg a Phont-y-p?l yn y ddwy flynedd ganlynol.
[3]
Sefydlodd swyddfa yn Llundain ym 1853, a gweithredodd fel peiriannydd ymgynghorol ar gyfer nifer fawr o gynlluniau, gan barhau i gynnal ei oruchwyliaeth reolaidd o'r dociau yng Nghaerdydd,
Fraserburgh
, Casnewydd
[4]
ac Abertawe. Ehangodd ei waith i gynnwys prosiectau tramor ym 1862, er na weithredwyd nifer o'i argymhellion, ac roedd y cynllun a adeiladwyd yn harbwr
Alexandria
yn y pen draw ychydig yn llai boddhaol na'i ddyluniad ei hun.
[3]
Roedd cynlluniau harbwr mawr yn cynnwys y rhai yn
Silloth
,
Portpatrick
,
Aberfal
,
Durban
yn Ne Affrica,
Watchet
,
Boston
a Doc Alexandra yn Kingston upon Hull. Gweithiodd hefyd ar Reilffordd Abertawe a Chastell-nedd rhwng 1862 a 1863, Rheilffordd Turin a Savona yn yr Eidal, a oedd yn 120 milltir (190 km) o hyd ac yn cynnwys twnnel 4 milltir (6.4KM), a Rheilffordd Ynys Hayling. Rhwng 1862 a 1867, roedd yn gyfrifol am y Grand Canal Cavour, sef camlas dyfrhau 54 milltir (87 km) o hyd, a oedd yn golygu ei fod yn ymweld a'r Eidal bob pedwar mis. Defnyddiodd y cyfle a gyflwynodd hyn i ymweld a
Fenis
sawl gwaith. Ym 1883, adroddodd ar y tri chynllun cystadleuol ar gyfer Camlas Llongau Manceinion,
[5]
gan ddarganfod o blaid yr un gan Syr Edward Leader Williams. Gweithredodd fel peiriannydd ymgynghori, gan ymweld a'r safle bob mis rhwng 1885 a 1893,
[3]
tra bod Williams yn Beiriannydd pennaf.
[3]
Ei gynllun mawr olaf dramor oedd adennill Llyn Aboukir yn yr Aifft, rhwng 1888 a 1889, er bod ei waith doc rheolaidd ym Mhrydain wedi parhau hyd ei farwolaeth, ac roedd gwaith ar Ddoc y Biwt yng Nghaerdydd yn dal i fynd rhagddo pan fu farw. Fe'i cwblhawyd yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Daeth yn aelod o Sefydliad y Peirianwyr Sifil ym 1844,
[3]
Er mai dim ond un papur a gyflwynodd i'r sefydliad, cyfrannodd at y trafodaethau ar ystod eang o bynciau, gwnaed ef hefyd yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin . Ei gynigwyr oedd David Stevenson, Fleeming Jenkin, Syr John Hawkshaw a Michael Scott.
[6]
Eisteddodd ar ddau Gomisiwn Brenhinol. Roedd y cyntaf yn ystyried Rhyddhau Carthffosiaeth Ddinesig,
[7]
ac fe'i cynhaliwyd ym 1882, tra cynhaliwyd yr ail ym 1889, ac edrychodd ar Weithfeydd Cyhoeddus Iwerddon.
[8]
Priododd Abernathy ag Ann Neill ym 1838, a bu iddynt saith o blant, pedwar mab a thair merch. Gweithiodd tri o'r meibion gyda'u tad, a ffurfiodd bartneriaeth gyda dau ohonynt, James a George, ym 1893.
[3]
Bu farw yn
Broadstairs
yng
Nghaint
ar 8 Mawrth 1896, ei fab cyntaf James yn cymryd y gwaith peirianneg drosodd a'i ail fab John yn ysgrifennu cofiant iddo ym 1897.
[9]