Jackson Pollock
|
---|
|
Ganwyd
| Paul Jackson Pollock
28 Ionawr 1912
Cody, Wyoming
|
---|
Bu farw
| 11 Awst 1956
East Hampton, Efrog Newydd
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| - Urdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd
- Manual Arts High School
|
---|
Galwedigaeth
| arlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau
|
---|
Adnabyddus am
| No. 5, 1948, Autumn Rhythm (Number 30), Blue Poles
|
---|
Arddull
| celf haniaethol
|
---|
Mudiad
| Mynegiadaeth Haniaethol, peintio gweithredol
|
---|
Priod
| Lee Krasner
|
---|
llofnod
|
---|
|
Arlunydd
Americanaidd
dylanwadol a phrif gymeriad yn y
mudiad mynegiadol haniaethol
oedd
Paul Jackson Pollock
(
28 Ionawr
1912
?
11 Awst
1956
). Adnabyddir am baentio arweithiol
(Action Painting)
y paent wedi'i daflu, arllwys, sblasio neu ddiferu dros gynfasau mawrion ar hyd y llawr.
Bu'n dra enwog yn ystod ei fywyd, un o'r arlunwyr Americanaidd mwyaf adnabyddus ei genhedlaeth. Gyda phersonoliaeth ymfflamychol, fe frwydrodd yn erbyn alcoholiaeth ar hyd ei fywyd. Roedd yn briod a'r darlunydd haniaethol cydnabyddedig
Lee Krasner
a fu'n ddylanwad mawr arno.
[1]
Bu farw Pollock yn 44 oed mewn damwain car, yn gyrru o dan ddylanwad alcohol.
[2]
Ym 1936 fe gyflwynwyd Pollock i'r syniad o ddefnyddio paent hylif
(liquid paint)
mewn gweithdy peintio arbrofol yn
Efrog Newydd
gan y peintiwr murluniau
Mecsicanaidd
, David Alfaro Siqueiros. Yn ddiweddarach, ym 1940, fe ddefnyddiodd y dechneg o arllwys paent. Wedi iddo symud i bentref Springs i'r gogledd o Efrog Newydd, ym 1945, fe dorrodd gyda’r arferiad o gael y gynfas ar ei fyny gan orwedd y cynfas ar hyd y llawr ac yn taflu a sblasio'r baent i lawer, yn beth roedd yn ei alw yn
drip painting
.
Dechreuodd ddefnyddio paent synthetig a phaent t?, a oedd yn gyfryngau anarferol i arlunwyr celf gain y cyfnod.
[3]
Defnyddiodd brwshys caled, darnau o bren i ollwng y paent a hyd yn oed syrinjys i'w chwistrellu. Gyda'r technegau yma roedd yn gallu fod yn fwy rhydd yn ei symudiadau wrth lifo'r paent dros y gynfas.
Gan beintio yn y steil yma, symudodd Pollock i ffwrdd o geisio cyfleu'n ffigurol ac yn herio'r traddodiad gorllewinol o ddefnyddio brwsh yn erbyn cynfas ar stondin. Defnyddiodd i egni a chryfder ei gorff cyfan i beintio. Ym 1956 fe alwyd yn 'Jack the Dripper' gan gylchgrawn 'Time'
[4]
- My painting does not come from the easel. I prefer to tack the unstretched canvas to the hard wall or the floor. I need the resistance of a hard surface. On the floor I am more at ease. I feel nearer, more part of the painting, since this way I can walk around it, work from the four sides and literally be 'in' the painting
.
Dylanwad posib ar Pollock oedd gwaith yr arlunydd Janet Sobel (1894?1968). Cafodd ei gwaith ei gynnwys gyda gwaith Pollock yn arddangosfa
The Art of This Century Gallery
, 1945 a drefnwyd gan y filiwnydd a chefnogwr celf Peggy Guggenheim.
[5]
[6]
[7]
Ar ol 1951 roedd y waith yn fwy dywyll, yn cynnwys casgliad a beintiwyd mewn ddu ar gynfas heb ei phreimio.
[8]
Yn ystod y cyfnod yma newidiodd Pollock i oriel fwy masnachol i werthu ei waith. Roedd alwad mawr am ei waith gan gasglwyr, ond roedd y pwysau ychwanegol arno yn cynyddu ei straen a dibyniaeth ar alcohol.
[9]
Yn ei ymdrech i symud yn bellach o ddisgwyliad y cyhoedd am elfennau ffigurol (copi neu debygrwydd gyda natur neu’r byd ‘go iawn’) fe ddechreuodd enwi ei gynfasau gyda rhifau yn dweud:
- look passively and try to receive what the painting has to offer and not bring a subject matter or preconceived idea of what they are to be looking for.
Yn 2000 gwnaethpwyd y ffilm Hollywood
Pollock
yn seiliedig ar llyfr bywgraffiadol
Jackson Pollock: An American Saga
, a enillodd
y wobr Pulitzer
. Roedd y ffilm yn brosiect Ed Harris a actiodd Pollock a fu'n gyfarwyddwr hefyd.
[10]
Mae nifer o weithiau Pollock wedi'u gwerthu am symiau uchel iawn. Yn 2013 fe werthwyd ei gynfas
Rhif 19
, (1948) am $58,363,750.
[11]
- ↑
Naifeh, Steven W.; Smith, Gregory White (24 Rhagfyr 1989).
Jackson Pollock: an American saga
. C.N. Potter.
ISBN
978-0-517-56084-6
. Cyrchwyd
4 Mai
2013
.
- ↑
http://www.biography.com/people/jackson-pollock-9443818
- ↑
Boddy-Evans, Marion.
"What Paint Did Pollock Use?"
. about.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2017-02-09
. Cyrchwyd
28 Medi
2007
.
- ↑
"The Wild Ones"
. Time (cylchgrawn). 20 Chwefror 1956. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-05-06
. Cyrchwyd
15 Medi
2008
.
- ↑
"copi archif"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-07-12
. Cyrchwyd
2014-09-16
.
- ↑
"Mother of Invention | Picture This | Big Think"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-10-06
. Cyrchwyd
2014-09-16
.
- ↑
Karmel, Pepe (1999).
Jackson Pollock: Interviews, Articles, and Reviews
. In Conjunction with the Exhibition "Jackson Pollock" - The Museum of Modern Art, New York, November 1, 1998 to February 2, 1999. The Museum of Modern Art. t. 273.
ISBN
978-0-87070-037-8
. Cyrchwyd
4 Mai
2011
.
- ↑
"Biography"
. Jackson-pollock.com
. Cyrchwyd
28 Medi
2007
.
- ↑
"Downfall of Pollock"
, Jackson Pollock website, adalwyd 23 Mehefin 2010.
- ↑
http://www.imdb.com/title/tt0183659/
- ↑
Vartanian, Hrag.
"Historic Night at Christie's as 12 Post-War Artists Set Records, Biggest Sale in History"
. Hyperallergic
. Cyrchwyd
18 Mai
2013
.