Awdur pamffledau gwleidyddol a bardd dychanol oedd
John Jones
(
Jac Glan-y-gors
) (
10 Tachwedd
1766
?
21 Mai
1821
), a anwyd yng
Ngherrigydrudion
, yn yr hen
Sir Ddinbych
(
Sir Conwy
).
Ganwyd a magwyd Jac Glan-y-gors yn ffermdy Glan-y-gors ym mhlwyf Cerrigydrudion, yn fab i Margaret a Laurence Jones. Treuliodd ei lencyndod yn gweithio ar y fferm deuluol, hyd yn 23 oed. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanrwst (
Ysgol Rad Llanrwst
) am gyfnod.
Symudodd i
Lundain
yn
1789
i weithio mewn siop yn y dref honno. Yn ol un ffynhonnell, ffodd yno oddi wrth gw?r y gyfraith, wedi iddo wrthod ymuno a'r milisia lleol, un o ugeiniau a godwyd yng Nghymru yr adeg honno am fod yr awdurdodau'n ofni goresgyniad y
Ffrancod
, a bygwth torri t?'r person lleol, un o'r enw Rowlands, ar ei ben. Yn
1793
roedd yn rhedeg tafarn y Canterbury Arms,
Southwark
. Ar 23 Gorffennaf 1816 priododd a Jane Jones (nee Mondel; merch o
Whitehaven
) yn eglwys y plwyf,
Bermondsey
.
[1]
Yn
1818
cymerodd denantiaeth y
King's Head
yn Stryd Ludgate yn 1818, a fu'n gyrchfan i Gymry Llundain a bu farw yno yn 1821.
Cymdeithasau llenyddol Llundain
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn Llundain daeth yn aelod blaengar o
Gymdeithas y Gwyneddigion
yn
1790
, yn yr un flwyddyn a
Twm o'r Nant
ac
Edward Charles
. Roedd yn un o sylfaenwyr
Cymdeithas y Cymreigyddion
er hyrwyddo'r Gymraeg. Ef hefyd oedd un o gychwynwyr
Y Greal
, ar ran y Gymdeithas honno.
Yn ol traddodiad lleol arferai Glan-y-gors eistedd ar garreg fawr ar lan ffrwd ger y fferm i brydyddu. Perthyn i draddodiad y bardd gwlad mae ei gerddi cyntaf, yn gerddi mawl neu ddiolch i ffrindiau a chymdogion; "cerddi achlysurol".
Cyflwynodd syniadau radicalaidd
Thomas Paine
i'r Cymry drwy'i ddau lyfryn enwog
Seren Tan Gwmmwl
(1795) a
Toriad y Dydd
(1797). Bu rhaid iddo ffoi o Lundain a llechu yng nghymdogaeth Cerrigydrudion am gyfnod mewn canlyniad; roedd yr awdurdodau'n llawdrwm ar unrhyw un a gefnogai syniadau'r
Chwyldro Ffrengig
.
Ysgrifennodd nifer helaeth o faledi hefyd, gan gynnwys
Hanes offeiriad wedi meddwi
(
Person Sir Aberteifi
),
Yr hen amser gynt
(addasiad o
Auld Lang Syne
) a
Cerdd
Dic Sion Dafydd
sy'n dychanu Cymry Llundain am droi eu cefn ar yr iaith
Gymraeg
.
- Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd
, (Lerpwl, 1923). Adargraffiad o'r testunau gwreiddiol gyda rhagymadrodd gan
Hugh Evans
.
- Richard Griffith (gol.),
Gwaith Glan y Gors
(Llanuwchllyn, 1905). Detholiad o'i gerddi yng
Nghyfres y Fil
gyda rhagymadrodd gan
Carneddog
.