Yr olaf o Uchel Dywysogion yr Hwngariaid o 997 i 1000 neu 1001, a'r cyntaf o
Frenhinoedd Hwngari
o 1000 neu 1001 hyd at ei farwolaeth ym 1038, oedd
Istvan I
a elwir hefyd yn
Frenin Sant Istvan
, neu yn Gymraeg
Steffan
(
Hwngareg
:
Szent Istvan kiraly
;
Lladin
:
Sanctus Stephanus
;
Slofaceg
:
?tefan I.
neu
?tefan Ve?ky
; tua
975
?
15 Awst
1038
). Y mae blwyddyn ei enedigaeth yn ansicr, ond y mae llawer o fanylion am ei fywyd yn awgrymu iddo gael ei eni yn, neu ar ol, 975, yn
Esztergom
. Rhoddwyd yr enw paganaidd
Vajk
iddo adeg ei eni, ond nid yw dyddiad ei
fedydd
yn hysbys. Ef oedd unig fab y Tywysog Geza a'i wraig Sarolt, a oedd yn disgyn o deulu amlwg o
gyula
, sef penaduriaid yr hen lwythau Magyaraidd. Er i'w ddau riant gael eu bedyddio, Istvan oedd y cyntaf o'i deulu i droi'n
Gristion
selog. Priododd Gisela o Fafaria, aelod o linach
yr Ymerawdwr Glan Rhufeinig Otto I
.
Wedi iddo olynu ei dad yn Uchel Dywysog yn 997 bu'n rhaid i Istvan frwydro am yr orsedd yn erbyn ei berthynas, Koppany, a gefnogwyd gan nifer fawr o ryfelwyr paganaidd. Bu Istvan yn drech na Koppany gyda chymorth marchogion tramor gan gynnwys Vecelin, Hont a Pazmany, ac arglwyddi brodorol. Coronwyd ef ar 25 Rhagfyr 1000 neu 1 Ionawr 1001 gyda choron a anfonwyd gan y
Pab Silvester II
. Trwy gyfres o ryfeloedd yn erbyn llwythau a phenaethiaid lled-annibynnol?gan gynnwys yr Hwngariaid Du, a'i ewythr Gyula yr Ieuaf?unodd y Brenin Istvan
Fasn Carpathia
dan sofraniaeth
Teyrnas Hwngari
. Gwarchododd annibyniaeth ei deyrnas trwy orfodi milwyr goresgynnol
yr Ymerawdwr Glan Rhufeinig Conrad II
i encilio o diriogaeth Hwngari ym 1030.
Sefydlodd Istvan o leiaf un archesgobaeth, chwech esgobaeth, a thri mynachlog
Benedictaidd
, gan alluogi'r
Eglwys Gatholig
yn Hwngari i ddatblygu'n annibynnol ar archesgobion yr
Ymerodraeth Lan Rufeinig
. Anogodd ledaeniad Cristnogaeth gan gosbi Hwngariaid yn llym am wrthod y ffydd neu anwybyddu ei harferion. Seiliwyd ei gyfundrefn o weinyddiaeth leol ar siroedd wedi eu rheoli gan swyddogion brenhinol yn breswyl mewn caerau sirol. Mwynhaodd Hwngari gyfnod o heddwch cymharol yn ystod ei deyrnasiad, a daeth y wlad yn llwybr i bererinion a masnachwyr ar daith o
Orllewin Ewrop
i
Gaergystennin
a'r
Wlad Sanctaidd
.
Bu farw Istvan ar 15 Awst 1038 yn 62 neu 63 oed, gan oroesi pob un o'i feibion a'i ferched. Fe'i claddwyd yn ei fasilica newydd a gafodd ei adeiladu yn Szekesfehervar a'i gysegru i'r
Forwyn Sanctaidd
. Yn sgil ei farwolaeth, dechreuodd rhyfeloedd cartref yn Hwngari a barhaodd am ddegawdau. Canoneiddiwyd ef, ynghyd a'i fab Imre a Gellert, Esgob Csanad, gan y
Pab Grigor VII
ym 1083. Daeth Istvan yn
sant
poblogaidd yn ei famwlad a'r gwledydd cyfagos, ac heddiw yn Hwngari mae ei ddygwyl (a ddethlir ar 20 Awst) hefyd yn ?yl gyhoeddus, a elwir yn Ddiwrnod Sefydlu'r Wladwriaeth, i goffau cychwyn y frenhiniaeth.