Mae
Isgyfandir India
yn rhan sylweddol o
gyfandir
Asia
sy'n cynnwys y gwledydd sy'n gorwedd, fwy neu lai, ar
blat tectonig India
i'r de o gadwyn yr
Himalaya
. Mae'r gwledydd hyn yn cynnwys
Bangladesh
,
Pacistan
,
Bhwtan
,
India
,
Nepal
a rhannau o ddwyrain
Affganistan
ar y tir mawr ac
ynysoedd
Sri Lanca
a'r
Maldives
(yn achos yr olaf am eu bod yn gorwedd ar yr un haen o gromen y ddaear dan y mor). Yn ogystal a bod yn rhanbarth ddaearyddol, mae'r isgyfandir yn rhanbarth ddiwyllianol sy'n rhannu elfennau pwysig o hanes a diwylliant mewn cyffredin.
Cyfeirir at yr isgyfandir fel
De Asia
hefyd, ond mae hyn yn derm diweddar a llai ddiffiniedig sy'n gallu cyfeirio at wledydd eraill yn ne Asia yn ogystal a gwledydd yr isgyfandir ei hun ac felly'n cael ei ystyried yn derm
daearwleidyddol
.