Un o
loerennau
'r blaned
Iau
yw
Io
. Darganfuwyd y lloeren gan y seryddwr
Galileo Galilei
yn 1610. Fe'i henwir ar ol
Io
ferch Inachus ac offeiriades
Hera
ym mytholeg y Groegiaid, un o gariadon
Zeus
.
Un o brif nodweddion Io yw'r cannoedd o
losgfynyddoedd
ar ei wyneb; mae nifer o chwiliedyddion gofod
NASA
megis Galileo wedi tynnu lluniau o ffrwydriadau folcanig. Credir fod hyn yn ganlyniad o'i agosrwydd i Iau, sydd yn achosi cynhesu yng nghanol y lloeren.
Lloerennau eraill Iau: