Mae
Indiana
yn dalaith yng nghanolbarth yr
Unol Daleithiau
, sy'n gorwedd ym masn
Afon Mississippi
. Mae'n
praire
anwastad yn bennaf, gyda
llynnoedd
rhewlifol yn y gogledd. Mae
Afon Indiana
yn llifo trwy'r dalaith hon i ymuno ag Afon Mississippi. Cafodd Indiana ei archwilio gan y
Ffrancod
yn yr
17g
. Fe'i ildiwyd gan Ffrainc i
Brydain Fawr
yn
1763
a chan Brydain i'r Unol Daleithiau yn
1783
. Ar ol rhyfel yn erbyn y bobl brodorol (a amddifadwyd o'u tiroedd) yn
1794
, gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth. Daeth yn dalaith yn
1816
.
Indianapolis
yw'r brifddinas.
Ceir
92 o siroedd
yn Indiana ac yn eu plith mae 'County Owen', a alwyd ar ol y milwr
Abraham Owen (milwr)
(1769-1811). Hanodd ei hen, hen, hen daid a nain (sef Humphrey a Catherine Owen) o
Nannau
ger
Dolgellau
.
[1]