Iaith heb
ffurfdroadau
sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy ddefnyddio
geirynnau
neu drwy
gystrawen
neu ymadrodd mewn perthynas a geiriau eraill yw
iaith ddadelfennol
neu
iaith analytig
. Mewn ieithoedd dadelfennol mae'r
morffemau
yn rhydd, hynny yw, mae pob
morffem
yn air ar wahan.
Dosberthir ieithoedd fel naill ai dadelfennol neu synthetig. Gwneir hyn drwy roi mesuraid
morffem
-y-gair ar iaith. Hynny yw, geiriau wedi'u cyfansoddi o un
morffem
sy'n dueddol o fod gan ieithoedd dadelfennol. Mae unrhyw iaith sydd a chymhareb forffem-y-gair mwy nag 1 yn
iaith synthetig
. Dangosir
morffemau
isod:
- Yn y gair Cymraeg
merch
dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair gymhareb forffem-y-gair o 1:1.
- Ond mae gan y gair
gwyddoniaethau
dri morffem (
gwyddon-, iaeth, -au
) ac felly mae gan y gair hwn gymhareb forffem-y-gair o 3:1.
Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel
Fietnameg
,
Tsieineeg
a'r iaith
Thai
yn dueddol o fod yn ddadelfennol. Yn Tsieineeg dim ond un
morffem
sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir
ffurfdroadau
i fynegi
cyflwr
ar enwau neu amser ar ferfau, ond yn hytrach, mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a
geirynnau
. Er enghraifft, yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar
gystrawen
i ddangos y berthynas rhwng y
goddrych a'r gwrthrych
:
明天
|
我
|
的
|
朋友
|
會
|
爲
|
我
|
做
|
一
|
個
|
生日
|
蛋?
|
明天
|
我
|
的
|
朋友
|
?
|
?
|
我
|
做
|
一
|
?
|
生日
|
蛋?
|
mingt?an
|
w?
|
de
|
pengyou
|
hui
|
wei
|
w?
|
zuo
|
yi
|
ge
|
sh?ngri
|
dan'g?o
|
yfory
|
fi
|
(geiryn israddol)
|
cyfaill
|
bydd
|
i
|
fi
|
gwneud
|
(bannod)
|
(dosbarthydd geiriau)
|
pen-blwydd
|
teisen
|
‘Yfory bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen ben-blwydd imi.’
|
Gellir dweud bod dim
morffoleg
ffurfdroadol gan ieithoedd dadelfennol.